Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mehefin 2021.
Diolch. Mae'r gwasanaeth GoSafe yn sicr yn rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau parhaus ynghylch angen rhagor o gyllid, na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny. Ond yn sicr fe ofynnaf i'r Gweinidog a oes unrhyw beth penodol ar gael, ac, os oes ganddo ragor o wybodaeth, fe ofynnaf iddo ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink