Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 22 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhyw bedwar neu bump o gwestiynau, dwi'n meddwl, gen i. Y cyntaf jest yn dilyn ymlaen o'r pwynt olaf yn y fan yna: oes gennych chi ddiweddariad i ni ar y gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu—y booster yna—yn gallu cael ei roi allan yn yr hydref yn unol â'r hyn y mae'r JCVI wedi awgrymu sydd angen ei weld yn digwydd?
Mae gwthio'r ail ddos yna allan mor gyflym â phosib yn allweddol rŵan, wrth gwrs. Dwi'n ymwybodol bod yna wahanol ffyrdd y mae pobl i fod i ddelio â'u byrddau iechyd: rhai yn disgwyl am lythyr, rhai yn disgwyl am alwad ffôn, eraill yn gorfod mynd ar-lein i wneud eu hapwyntiad eu hunain; a dyna wnes i, yn y pen draw, a chael fy ail frechiad i ddoe. Oes yna angen rhywfaint o gysoni neu gryfhau y cyfathrebu ar lefel genedlaethol yn fan hyn, o ran sut y mae pobl i fod i gael yr ail frechiad yna mor fuan â phosib? Achos mae'n rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i wedi drysu braidd fy hun dros yr wythnosau diwethaf.
Myfyrwyr: mae llawer o fyfyrwyr wrth gwrs yn mynd i fod wedi cael eu brechiad cyntaf yn lle maen nhw yn y brifysgol, ac wedyn yn mynd yn ôl gartref i rannau eraill o Gymru neu i Loegr. Allwch chi egluro pa waith sy'n cael ei wneud i hwyluso pethau fel bod yr ail ddos yn gallu cael ei rhoi heb rwystrau, lle mae pobl wedi newid cyfeiriad a llythyrau'n mynd ar goll, a'r math yna o beth?
Mae'r twf yn yr amrywiolyn delta, wrth gwrs, yn bygwth ein hysbytai ni unwaith eto. Rydyn ni'n gobeithio, wrth gwrs, bod y brechiad yn mynd i atal ymchwydd mawr yn y nifer sy'n mynd i'r ysbytai, ond beth rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i gryfhau'r symudiad tuag at gael mwy o safleoedd COVID-lite, fel nad ydy gweithgareddau eraill yr NHS yn dod dan fygythiad mwy na sydd ei angen? Mae cael y safleoedd COVID-lite yma, wrth gwrs, yn rhywbeth mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er enghraifft, wedi gofyn amdano fo droeon dros y flwyddyn diwethaf. Maen nhw'n dal yn methu â gweld y math o symudiad ar hyn yr hoffen nhw ei gael.
Un cwestiwn olaf ynglŷn ag asthma yn benodol, a'r angen i bobl sy'n dioddef asthma gael brechiad ychwanegol. Mae yna bryder gan Asthma UK bod yna gannoedd o filoedd o bobl wedi mynd ar goll o systemau'r gwasanaeth iechyd ar draws Prydain ac wedi methu â chael y brechiad yn gynnar. Mae yna restr brechiadau ffliw sydd gan y gwasanaeth iechyd beth bynnag; mae fy nharo i fod trio ailddyfeisio'r olwyn wedi mynd ymlaen yn fan hyn. Felly, allwch chi edrych ar y posibilrwydd o jest mynd oddi ar restr asthma'r brechiad ffliw er mwyn sicrhau bod pobl sy'n dioddef asthma yn cael unrhyw boosters mor fuan â phosibl pan ddaw hi i'r hydref? Diolch.