4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:30, 22 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae rhagfarn yn faich sy'n drysu'r gorffennol, yn bygwth y dyfodol, ac yn gwneud y presennol yn anhygyrch. Mae'r geiriau hyn, a ynganwyd gan Maya Angelou dros 30 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio mor uchel heddiw. Mae heddiw'n nodi pedwerydd Diwrnod Cenedlaethol Windrush, diwrnod sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau dynion a menywod ar draws y Gymanwlad a helpodd i adeiladu Cymru fodern a gwneud y wlad hon yn gartref iddyn nhw, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu nifer o sefydliadau i nodi'r digwyddiad hwn ledled Cymru, i ailadrodd y straeon hynny ac i ddathlu'r cyfraniadau hynny i'n cenedl.

Mae mudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n cenedl ers amser maith cyn ac ers i deithwyr y Windrush gyrraedd. A byddai'n esgeulus imi beidio â manteisio ar y cyfle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru fod straeon eich cyfraniadau, bod eich awydd i alw Cymru'n gartref i chi, yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi'n llwyr. A dyna pam yr ydym wedi gweithio'n ddiflino i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar 30 Mehefin.

Fel Llywodraeth Cymru rydym hefyd wedi cefnogi a chynnig noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers tro byd. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, a'r wythnos diwethaf cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi cyfraniad rhyfeddol ffoaduriaid i'r frwydr yn erbyn COVID-19 yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, os cymerwn eiliad i fyfyrio, 2020 oedd, heb amheuaeth, y flwyddyn pan fuom yn wynebu hiliaeth na welsom ei thebyg erioed o'r blaen, lle cawsom ein gorfodi i wynebu'r gorffennol a chyflwr presennol ein cysylltiadau hiliol. Roedd effaith COVID-19 yn parlysu'r byd. Ymhlith y rhai a ddioddefodd yr ergyd galetaf gan y pandemig oedd ein cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Anfonodd llofruddiaeth greulon George Floyd donnau ysgytwol ar draws y byd a sbarduno protestiadau byd-eang yn erbyn anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau hiliol, gan gynnwys yma yng Nghymru. Dyma rai o'r digwyddiadau a newidiodd ein byd a byddant yn cael eu cofio yn ein llyfrau hanes fel rhybudd amserol ar gyfer cyfiawnder hiliol a newid. 

Roedd y 25 o Fai 2021 yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Mr Floyd. I'w deulu, cafwyd rhyw fath o gyfiawnder pan gafodd rheithgor o 14 y swyddog heddlu Derek Chauvin, yn euog o'i lofruddiaeth. I ni, mae marwolaeth George Floyd yn ein hatgoffa ni bod yn rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â hiliaeth o bob math a symud ymlaen. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymdrechu i wneud hynny: symud ymlaen.

Ym mis Mawrth 2020, trafodais gyda Fforwm Hil Cymru y bwriad i ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a chyflymodd digwyddiadau 2020 ein penderfyniad i gyflawni cynllun erbyn diwedd tymor diwethaf y Senedd. A'r llynedd, cefnogodd y Senedd gynnig i ddileu hiliaeth ac ideolegau hiliol yn llwyr ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol systemig a strwythurol. Ac rydym wedi cymryd camau breision ers hynny yn ein hymdrech i weithio tuag at ddileu hiliaeth a chyflawni ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.

Ar 24 Mawrth, gwnaethom lansio'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft ar gyfer Cymru, Cymru wrth-hiliol, ar gyfer ymgynghori. Rwy'n falch mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i alw am wlad wrth-hiliol.

Roedd y dystiolaeth gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni gyd-adeiladu'r cynllun gweithredu yn gwneud graddfa a natur dreiddiol yr hiliaeth y mae pobl yn ei hwynebu bob dydd yn glir iawn. Roedd hyn yn atgyfnerthu'r angen am y cynllun gweithredu i hyrwyddo Cymru wrth-hiliol. Nid yw'n ddigon da dweud nad ydym yn hiliol. Mae effeithiau niweidiol hiliaeth sydd wedi eu hen sefydlu ac anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny yn gofyn am weithredu rhagweithiol, gwrth-hiliol.

Mae gwrth-hiliaeth yn alwad i unigolion a sefydliadau i ymrwymo i feddwl yn weithredol ac ymateb i effeithiau posibl eu strwythurau, eu prosesau, eu polisïau a'u harferion presennol o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'n bryd inni symud y baich o fynd i'r afael â hiliaeth oddi ar ysgwyddau dioddefwyr gweithredoedd o'r fath, a'i drosglwyddo i bawb mewn cymdeithas. A dyna sut y byddwn ni'n cyflawni Cymru sy'n fwy cyfartal, sy'n decach ac sy'n hygyrch i'n holl ddinasyddion. Ac rwy'n ddiolchgar am ymdrechion cynifer o bobl a sefydliadau ledled Cymru a roddodd eu hamser, eu gwybodaeth a'u harbenigedd gwerthfawr ac i'r rhai a rannodd eu profiadau byw o hiliaeth wrth gyd-greu'r cynllun gweithredu.

Gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cynllun drafft sy'n glir o ran diben, yn seiliedig ar weithredu, ac wedi'i hyrwyddo gan y bobl a fydd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'n gynllun gweithredu sydd heb gywilydd yn ei benderfyniad i ddileu anghydraddoldebau hiliol erbyn 2030, ac mae'n gynllun y gallwn ei gryfhau ymhellach.

Er mwyn sicrhau bod y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael i bawb, rwyf wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori i 15 Gorffennaf 2021. Mae'n hanfodol bod yr ymgynghoriad yn ymestyn yn eang i gymunedau amrywiol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer deialog hyblyg, a all fod ar sawl ffurf. Lansiais grant ymgynghori cymunedol ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i sicrhau bod cyfleoedd ymgynghori ar gael i gymunedau a grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, i'w galluogi nhw i ymateb i'r cynllun. Mae eu lleisiau'n hollbwysig yn y broses hon, gan ein bod am sicrhau ein bod yn cymryd yr amser i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau sy'n wynebu anghydraddoldebau hiliol, i gynnwys y safbwyntiau hynny yn ein cynllun. A byddwn yn cymryd yr hyn a ddysgwn o'r broses hon i lywio sut yr ydym yn gweithio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol.

Mae clywed gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yr un mor hanfodol hefyd, gan nad cynllun i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, mae'n gynllun i Gymru gyfan a'i phobl—mae pob un ohonom yn elwa ar Gymru gynhwysol a gwrth-hiliol. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i siarad am fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru, a defnyddio cyfleoedd a gyflwynir i bawb yn y broses ymgynghori hon. Mae'n rhaid inni ymuno fel pleidiau gwleidyddol â chymdeithasau busnes, undebau llafur, cyrff cyhoeddus, y trydydd sector a chymdeithas sifil. Dim ond trwy ein hymdrech ar y cyd i gydnabod a dileu hiliaeth y gallwn ddileu hiliaeth yn wirioneddol a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol.

Mae mis Mehefin hefyd yn Fis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride. Ac mae'r digwyddiadau hyn yn gerrig milltir allweddol sy'n rhoi cyfle i ni ddathlu ein hamrywiaeth a'r cryfder a ddaw yn sgil hynny i addysgu a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae nodi pen-blwyddi pwysig fel Diwrnod Windrush, Wythnos Ffoaduriaid, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride yn atgyfnerthu gwirionedd sylfaenol: ni ddylem, ac nid ydym yn cymryd ein cymunedau'n ganiataol. Yn hytrach, byddwn yn ymdrechu'n galetach i wneud Cymru'n wlad lle mae cydraddoldeb i bawb yn sicr ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth a enillir.

Felly, yn olaf, galwaf ar bawb yma i addo gweithio gyda ni yn ein gweledigaeth i sicrhau Cymru wrth-hiliol. Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd mae'n rhaid i ni ymrwymo i ddileu pob math o hiliaeth. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni ymdrechu i greu cymdeithas deg a chlir. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i'n gobeithion ar gyfer ein gwlad gyd-fynd â phenderfyniad i newid. Diolch yn fawr.