4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:04, 22 Mehefin 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch, Weinidog, hefyd, am y datganiad yma. Dwi'n falch gweld y camau sy'n cael eu cymryd yn hyn o beth.

Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle yma i nodi yn benodol y ffaith ei bod hi'n Fis Hanes y Roma, y Sipswn a Theithwyr, ac roeddwn i'n falch iawn eich clywed chi'n cyfeirio at hynny yn eich datganiad chi. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hiliaeth yn erbyn y cymunedau yma yn parhau i fod yn dderbyniol yn ein cymdeithas ni, a hynny yn seiliedig ar anwybodaeth. Ond, oherwydd yr anwybodaeth yna, dyna yw sail y ffaith nad oes yna ddim yn cael ei wneud i ddathlu cyfraniad y cymunedau yma i'n hanes a'n diwylliant a'n twf ni fel cenedl. Os ystyriwch chi mai heb y Roma a'r Sipsiwn, er enghraifft, fuasai gennym ni ddim ein caneuon gwerin a'n dawnsio gwerin ni yma yng Nghymru heddiw, fel roedd Dr Meredydd Evans wedi'i nodi. Ac rydych chi'n meddwl yn benodol am bobl fel Abram Wood a chyfraniad anferthol ei deulu o; yn meddwl hefyd am iaith y Roma yng Nghymru—y Kale yma. Hynny ydy, yn Nolgellau, mae pobl yn parhau i gyfeirio at ei gilydd fel 'chavi', sef 'plentyn' yn iaith Romani Cymru. Ac fel rhywun a gafodd ei fagu am gyfnod yn Abertawe, dwi'n gyfarwydd iawn â'r term 'mush'—pobl yn cyfeirio at ei gilydd fel 'mush'—sef y gair am 'ddyn' yn iaith y Roma yma yng Nghymru. Ond does yna ddim cydnabyddiaeth o rôl y cymunedau yma yn ein twf ni fel cenedl, na hyd yn oed statws swyddogol i'r iaith na'u diwylliant nhw. Felly, beth ydych chi am wneud i sicrhau bod y cymunedau yma, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn nhwf ein cenedl ni ac yn ein diwylliant ni, eu bod nhw'n cael y gydnabyddiaeth gywir, ynghyd â phob un gymuned arall yma, ac yna hefyd i gael gwared ar yr ymosodiadau hiliol sydd yn eu herbyn nhw? Diolch.