Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 23 Mehefin 2021.
Yn amlwg, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod. Credaf fod gan Huw a minnau ddiddordeb cyffredin yn lleol gan fod y ddau ohonom yn hanu o etholaeth fendigedig Ogwr—fi ym Mhencoed a Huw, wrth gwrs, ym Maesteg. Ac wrth gwrs, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gan y ddau ohonom aelodau o'r teulu sy'n aml yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i gyrraedd y gwaith neu i fynychu apwyntiadau ysbyty.
Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol mai bysiau a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yw'r mater sy'n codi fwyaf yn ein mewnflychau pa ardal bynnag a gynrychiolwn. Yn yr etholiad, er enghraifft, collais gyfrif ar faint o weithiau y cafodd gwasanaethau bysiau eu crybwyll, yn enwedig gan etholwyr a oedd wedi ymddeol ac yn amlach na pheidio yn dibynnu ar y gwasanaeth i gyrraedd apwyntiad, yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy achos i, neu yn yr achosion y deuthum ar eu traws.
Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi taro'r hoelen ar ei phen ddoe, a chredaf y bydd yn hapus iawn fy mod wedi dweud hyn, fod bysiau'n llawn gymaint o fater cyfiawnder cymdeithasol ag y maent o fater newid hinsawdd neu o fater trafnidiaeth. Er enghraifft, gwyddom nad oes gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr bysiau—tua 80 y cant—gar preifat at eu defnydd. Gwyddom hefyd fod y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr bysiau sy'n dibynnu ar y gwasanaethau ar incwm isel. Ac unwaith eto, gan ddychwelyd at Ogwr, fel y mae Huw'n gwybod, nid yw'r rheilffyrdd yn cyrraedd y rhan fwyaf o'r etholaeth. Ac nid yw hon yn nodwedd sy'n unigryw i Ogwr, mae'n rhywbeth a welir ledled Cymru. Mae cymoedd Ogwr a Garw yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau bysiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac mae hwnnw'n batrwm a welwn ym mhobman yng Nghymru fel y dywedais, o gymoedd Ogwr i gymoedd Castell-nedd ac i'r cymoedd o amgylch Abertawe. Mae llawer o'r ardaloedd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau ac er hynny, mae gwasanaethau dan fygythiad cyson o gael eu torri neu eu newid am nad ydynt yn broffidiol mwyach.
Ac rwy'n credu bod elw yn air allweddol inni ei ystyried yn y ddadl hon. Y gwir amdani yw, cyn belled â bod gwasanaethau bysiau yn nwylo cwmnïau sy'n cael eu gyrru gan elw, ni chânt byth mo'u gyrru gan anghenion ein cymunedau—dyna hanfod hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at hyn mewn ateb a roddodd yn gynharach heddiw: lle mae angen gwasanaethau, mewn cymunedau incwm isel yn bennaf, nid ydynt yn bodoli o gwbl ac maent o ansawdd gwael, ond lle gall pobl fforddio talu mwy am y gwasanaeth, mae ansawdd y gwasanaeth yn wych. Mae'n bwysig yn awr wrth i'r ddadl hon ddatblygu—ac mae angen iddi ddatblygu fel mater o frys, gyda llaw—ein bod yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau bysiau a'r system drafnidiaeth gyhoeddus ehangach yn gweithio i'n cymunedau, a chymunedau, unwaith eto, yw'r gair allweddol yma. I mi, mae hynny'n golygu dod â'r pŵer yn ôl i'r bobl a dod â'n gwasanaethau hanfodol yn ôl i ddwylo cyhoeddus.