5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:32, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod a'r llu o Aelodau trawsbleidiol a gefnogodd y cais hefyd?

Mae bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n briodol yn amlwg yn bwysig iawn i'r Senedd ac i'r etholwyr a wasanaethwn. Nawr, mae'n siŵr heddiw y bydd gan yr Aelodau hanesion i'w hadrodd am ein gwasanaethau lleol ein hunain. Bydd rhai'n sôn am wasanaethau a gollwyd yn ystod neu hyd yn oed cyn y pandemig; bydd rhai'n sôn am ffyrdd newydd creadigol o ddarparu atebion trafnidiaeth, yn enwedig i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. A byddwn hefyd yn clywed, gobeithio, am ddewrder gyrwyr a staff a gadwodd wasanaethau bws hanfodol i fynd pan oedd y pandemig ar ei waethaf ac ers hynny. Bydd y profiadau hyn yn lleol a thrwy Gymru yn dda i'w clywed yn y Senedd.

Ond rwy'n gobeithio y cawn amser hefyd i ganolbwyntio ar y ffordd ymlaen i Gymru, ar gyfer pob rhan o Gymru, sy'n galw am ddiwygio a buddsoddi'n wirioneddol radical yn ein bysiau, bysiau rheolaidd a bysiau Fflecsi ac ar alw, ond hefyd am lawer mwy o integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, amserlenni a systemau tocynnau symlach, newid dulliau teithio yn sylweddol o drafnidiaeth unigolion i drafnidiaeth gymunedol ac i deithio llesol lle bynnag y bo modd i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r angen am deithiau hwy hefyd, drwy greu cymunedau lleol gyda swyddi a gwasanaethau a siopau a chyfleoedd i gymdeithasu o fewn pellter hawdd ei deithio ar droed neu ar feic.

Ond gadewch inni ddechrau gyda bysiau, oherwydd rwy'n tybio mai dyna y bydd llawer o bobl eisiau clywed amdano. Nid fi'n unig sydd wedi gweld y toriadau helaeth i wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae effaith y toriadau'n aml wedi bod waethaf ar y cymunedau mwyaf anghysbell, a chymunedau sydd dan anfantais sylweddol eisoes. Mae blaenau'r cymoedd hardd yn fy etholaeth—pen y bryniau yn fy nghymoedd—yn aml yn gyn-gymunedau glofaol ac ystadau tai cymdeithasol. Yn aml, ni cheir darpariaeth dda o siopau a chyfleusterau iechyd a chyfleoedd swyddi a chlybiau a chanolfannau cymunedol i allu cymysgu a chymdeithasu ynddynt. Dyma'r mannau sydd â'r cyfraddau isaf o bobl yn berchen ar geir a lle mae'r preswylwyr yn aml yn hŷn ac yn llai iach a llai symudol. Ac eto, dyma'r union gymunedau—mor aml, y rhai lle gwelir y toriadau gyntaf. Ac yn aml daw'r toriadau hynny yn gyntaf fel rhai dros dro, oherwydd problemau a nodir ynghylch gyrru bysiau ar strydoedd cul gyda cheir wedi'u parcio, neu ddifrod i fysiau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu oherwydd y pandemig. Ond mor aml, daw'r toriadau hyn yn rhai parhaol, er gwaethaf gwrthwynebiad y bobl leol a chynrychiolwyr lleol. Weithiau dywedir wrthym fod y toriadau'n digwydd am nad yw'r llwybr yn broffidiol. Ac eto, mae gan fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiben cymdeithasol ac economaidd go iawn. Maent yn cysylltu pobl a chymunedau. Heb fysiau, mae gennym gymunedau ynysig a phobl ynysig, gyda'r holl broblemau a ddaw yn sgil hynny i unigolion ac i gymdeithas. Ni allwn ddarostwng bysiau i fod yn ddim mwy na thrafodiad ariannol am docyn neu gyfrifiad oer o broffidioldeb tymor byr gwahanol lwybrau. Maent yn fwy na hynny. Fel y dywedodd Marion a Keith yng Nghaerau wrth y BBC neithiwr, maent yn achubiaeth i bobl allu cyfarfod â'u ffrindiau, cyrraedd y meddyg neu'r ysbyty, cyrraedd y gwaith a bod yn rhan o'u cymuned ehangach. Hebddynt, mae cymunedau wedi'u hynysu ac ar eu pen eu hunain ac mae hynny'n wir am yr unigolion yn ogystal.