Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch, Lywydd. Codaf i gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn ac i siarad yn erbyn y ddau welliant.
Lywydd, heddiw mae'n bum mlynedd ers y foment hanesyddol pan bleidleisiodd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n wirionedd anghyfleus i lawer o bobl yn y Siambr hon, ond dyna fel y mae pethau. Pleidleisiodd mwy o bobl yn y refferendwm, wrth gwrs, nag mewn unrhyw bleidlais yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 1997. Rhoddodd ganlyniad clir inni a syfrdanodd y sefydliad Cymreig, a gallaf glywed rhai ohonynt yn heclo ar hyn o bryd—[Chwerthin.] Pleidleisiodd 854,572 o bobl yng Nghymru dros adael yr UE. Mae hynny bron ddwywaith cymaint â'r rhai a bleidleisiodd dros Lafur yn etholiad diwethaf y Senedd, a 300,000 yn fwy na'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd o blaid sefydlu'r Senedd yn ôl yn 1997.
Nid oedd y tair blynedd a hanner a ddilynodd bleidlais Brexit yn rhai hawdd. Roedd y rhifyddeg seneddol, a phenderfyniad y rhai a oedd yn chwarae gwleidyddiaeth ac nad oeddent yn parchu ewyllys y bobl ac a geisiai rwystro proses Brexit, yn ei gwneud hi'n anodd ac yn flinderus iawn ar adegau. Ond daeth y cyfnod poenus hwnnw i ben gydag etholiad cyffredinol yn 2019 a welodd Lywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol gyda mwyafrif enfawr. Cafodd fandad clir i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, ac roedd yn etholiad a welodd wal goch Llafur yn cael ei chwalu'n yfflon yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu sychu oddi ar y map wrth gwrs—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n hoffi hynny, James. A chafodd Plaid Cymru ei bwrw i'r trydydd safle yn ei sedd darged Rhif 1, Ynys Môn.
Yn dilyn yr etholiad hwnnw, wrth gwrs, llwyddodd Boris i gyflawni Brexit. Cyflawnodd ei addewid i'r bobl. Lywydd, mae'n hanfodol er lles democratiaeth fod canlyniadau etholiadau a refferenda bob amser yn cael eu parchu a'u gweithredu. Dyna pam rwy'n hynod siomedig nad yw'r ymwahanwyr ym Mhlaid Cymru na Llywodraeth Lafur Cymru, yn eu gwelliannau dileu popeth heddiw, wedi dewis adlewyrchu'r gwirionedd pwysig hwn.
Lywydd, ni chyflwynodd fy mhlaid y cynnig heddiw gyda'r bwriad o agor rhaniadau'r gorffennol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y ddadl ar Brexit—[Torri ar draws.] Mae'n wir. Fe'i cyflwynwyd, yn hytrach, i roi cyfle i'r holl Aelodau o'r Senedd hon gael dadl lawn a gonest am y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i Gymru, ac i symud ymlaen o holl raniadau'r pum mlynedd diwethaf. Ac eto, fel y gwelwn o'r papur trefn, mae'r ddwy blaid gyferbyn wedi cyflwyno gwelliannau sy'n ailadrodd yr un math o ymraniad, yr un math o siarad gorchestol, a nodweddai eu hymateb i'r refferendwm yn 2016. Maent fel record wedi torri, Lywydd. Mae'n bryd iddynt symud ymlaen.
Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru yn ceisio pedlera'r chwedloniaeth fod Llywodraeth y DU wedi bod yn tanseilio datganoli ers Brexit, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Diolch i Brexit, y realiti yw bod gan Gymru bellach ei Senedd ddatganoledig fwyaf pwerus mewn hanes.
Mae Cymru wedi dod allan ohoni gyda rhestr newydd gyffrous o gyfrifoldebau a oedd gynt wedi'u lleoli ym Mrwsel, ac yn groes i haeriad Llafur a Phlaid Cymru, ni wnaeth Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ddileu unhryw un o bwerau'r Senedd hon. Yn hytrach, fe wnaeth ganiatáu i bwerau a arferai fod wedi'u lleoli yn yr UE gael eu trosglwyddo'n drefnus, ac roedd yn eu dychwelyd i Seneddau yma yn y DU. Dyna'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto. Ac yn y pwerau a'r cyfrifoldebau pellach hynny, mae dwsinau o feysydd yma yng Nghymru sydd bellach wedi gweld y setliad datganoli'n cael ei gadarnhau ymhellach yn ein cyfansoddiad. Nid pwerau dros feysydd deddfwriaeth aneglur nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar fywydau pobl yw'r rhain. Maent i'w cael mewn meysydd arwyddocaol, megis ansawdd aer, labelu bwyd, yr amgylchedd morol, caffael cyhoeddus, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac mae'r holl bwerau a chyfrifoldebau newydd hyn, os cânt eu defnyddio'n dda gan y Llywodraeth hon yng Cymru, yn gallu gwella bywydau pobl o ddydd i ddydd ledled y wlad.
Felly, Lywydd, ni fu unrhyw gipio pwerau gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Ni fu unrhyw ymosodiad ar ddatganoli. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Aelodau'r pleidiau gyferbyn roi rhestr i mi o'r pwerau sydd wedi'u cipio oddi wrth y Senedd o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac rwy'n dal i aros am y rhestr honno. Oherwydd y realiti yw na fydd dim arni. Nid oes dim arni; nid oes unrhyw beth ar y rhestr honno. Edrychaf ymlaen at ei derbyn. Gobeithio y gwnewch waith gwell na'ch rhagflaenydd, oherwydd ni chefais gopi. A hynny oherwydd na allant gynhyrchu un, oherwydd nid oes unrhyw bwerau wedi'u cipio oddi wrth y Senedd hon. Nid yw'r cyhuddiadau y maent wedi bod yn eu cyfeirio at Lywodraeth y DU yn ddim mwy na chlecian clefyddau—clecian clefyddau gan bleidiau gwleidyddol sy'n gwrthwynebu i bwerau gael eu trosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan, ac eto'n poeni dim pan oedd yr holl bwerau hyn yn cael eu harfer ym Mrwsel.
Unwaith eto heddiw, mae Plaid Cymru yn ddigon haerllug i gyflwyno rhywbeth sy'n galw am refferendwm pellach ar newid cyfansoddiadol. Nawr, fel y dywedais bythefnos yn ôl wrth yr Aelodau ar feinciau Plaid Cymru, nid oes archwaeth am newid cyfansoddiadol sylweddol pellach a refferenda pellach yng Nghymru. Gwnaethoch osod eich stondin i bobl Cymru yn etholiadau'r Senedd y mis diwethaf, ar y sail eich bod am gael annibyniaeth a'ch bod am gael refferendwm, ac fe gawsoch slap gan etholwyr Cymru, a wrthododd eich galwadau'n llwyr.
Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o ganoli ymosodol yn ystod y misoedd diwethaf—canoli ymosodol, dyna maent wedi ein cyhuddo ohono. Yr eironi. Mae'n haerllug braidd fod Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn canoli pwerau yng Nghaerdydd ac yn mynd â phwerau oddi wrth gynghorau lleol ar hyd a lled y wlad am ddau ddegawd yn dweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn Llywodraeth sy'n canoli. Cwbl anghredadwy. Dyma'r ffeithiau: mae Llywodraeth y DU, o ganlyniad i gronfa godi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, mewn gwirionedd yn datganoli pŵer. Mae'n datganoli pŵer drwy roi rôl lawer mwy i awdurdodau lleol nag erioed o'r blaen yn y gwaith o gyflawni buddsoddiad mawr a sylweddol yn eu hardaloedd. Oherwydd dyna'r gwahaniaeth rhwng fy mhlaid i a'r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Siambr hon: rydym yn ymddiried mewn pobl leol i wneud penderfyniadau lleol drostynt eu hunain. Credwn eu bod yn gallu gwneud y penderfyniadau drostynt eu hunain yn well na'r bobl sy'n eistedd mewn tyrau ifori yng Nghaerdydd. Dyna'r gwirionedd. Dyna'r gwirionedd.
Nawr, byddech yn meddwl y byddai'r pleidiau gyferbyn yn croesawu mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, ac eto, maent yn ei wrthwynebu. Onid yw'n rhyfeddol? Maent bob amser yn gofyn am fwy o arian a mwy o fuddsoddiad, a phan ddywed Llywodraeth y DU, 'Iawn, fe wnawn ei roi; fe wnawn baratoi'r ffordd gyda Deddf marchnad fewnol y DU', maent yn dweud, 'Nid ydym ei heisiau; rydym am wneud y penderfyniadau. Wel, mae'n ddrwg gennyf, mae'n annerbyniol. Ni ddylech gwyno am yr adnodd ychwanegol y mae Llywodraeth y DU am ei ddarparu yma yng Nghymru. Nid ydym angen Llywodraeth sy'n codi dau fys ar Lywodraeth y DU; yr hyn rydym ei angen yw Llywodraeth sy'n cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pobl Cymru. Oherwydd, wyddoch chi, o ganlyniad i Brexit, mae gennyf lawer o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y bydd Cymru'n elwa o ganlyniad i'r gronfa ffyniant gyffredin a'r cronfeydd codi'r gwastad a ddaw i'n hawdurdodau lleol, byddwn hefyd yn elwa o ganlyniad i'r cytundebau masnach sydd wedi'u cytuno gyda gwledydd ym mhob cwr o'r byd.
Mae Llywodraeth Ei Mawrhydi eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach gyda 67 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd. Chwe deg saith o wledydd. Cytundebau gwerth mwy na—. Cofiaf rai ohonoch ar y meinciau Llafur yn dweud wrthym na fyddai unrhyw ffordd y ceid cytundeb masnach o fewn y degawd nesaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac eto mae gennym un. Ac eto, mae gennym un. Mae Boris Johnson a'i dîm wedi cyflawni'r wyrth. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hynny, ond dyna'r gwir. Dyna'r gwir. Mae gennym gytundebau gwerth mwy na £890 biliwn, ac yn dal i godi. Mae 63 y cant o fasnach y DU yn dod o dan y cytundebau masnach hynny. Cytundebau gyda gwledydd mor amrywiol â Canada, yr Aifft, Gwlad yr Iâ, Japan, Kenya, Serbia, Chile, Singapôr. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac nid cytundebau masnach yw'r rhain a luniwyd gan Deyrnas Unedig ynysig; mae'r rhain yn gytundebau masnach gan Brydain fyd-eang sydd am chwarae rhan bwysig ar y llwyfan rhyngwladol.
Felly, gadewch inni nodi pum mlwyddiant gwych y refferendwm heddiw drwy roi'r ymraniadau y tu ôl inni. Gadewch inni gytuno i weithio gyda'n gilydd, i fanteisio ar y cyfan y mae Brexit yn ei gynnig, a gadewch inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru, dros y pum mlynedd nesaf, yn cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pawb yma yng Nghymru.