6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:54, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Roedd Boris Johnson yn gweld proses Brexit fel cyfle i fachu allweddi drws ffrynt 10 Stryd Downing. Nawr fod gennym y Brexit caled, llym hwn, mae angen i ni fel Senedd gydweithio i liniaru ei effaith. Rhaid inni wrthsefyll sŵn y curo drymiau o bell gan Blaid Geidwadol genedlaetholgar yn Lloegr, plaid sy'n benderfynol o niweidio datganoli, a thrwy hynny, niweidio Cymru a niweidio pobl Cymru.