Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 23 Mehefin 2021.
Roeddwn yn teimlo rheidrwydd i gyfrannu yn y ddadl hon, yn bennaf oherwydd, fel Jane, cefais fy nharo gan gywair llawer o'r hyn a glywais yma heddiw. Efallai mai ei anian hwyliog naturiol ydyw, ond bron nad oeddwn yn meddwl bod Darren Millar yn mwynhau hyn—rhwbio ein hwynebau, os mynnwch, yn y ffaith ei bod hi'n bum mlynedd ers canlyniad y refferendwm hwnnw.
Cafwyd canlyniadau difrifol i'r canlyniad hwnnw. Rydym wedi symud ymlaen, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae unrhyw un sy'n gwadu'r canlyniadau difrifol hynny'n gwneud anghymwynas wirioneddol â phobl eu hetholaethau eu hunain—ac ydw, rwy'n gwybod eich bod am wneud eich marc yma yn y Senedd newydd hon, ond rydych yn gwneud anghymwynas â Chymru.
Gadewch imi sôn yn gyflym am y sector bwyd yn fy etholaeth. Nid yw unrhyw gytundeb—ac oes, mae nifer ohonynt, Darren Millar—nid yw unrhyw gytundeb o reidrwydd yn gytundeb da, a gwn mor bryderus yw ffermwyr yn fy etholaeth am ganlyniadau'r cytundeb ag Awstralia. Gwn mor ddinistriol yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ffermwyr pysgod cregyn yn fy etholaeth. Gallaf ddweud wrthych am un allforiwr bwyd yn fy etholaeth—allforiwr rhagorol. Byddai 30 y cant o'i hufen iâ yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Byddai'n cymryd archeb, byddai'n trefnu'r archeb honno—sypiau gweddol fach, yn ffurfio archebion mawr gyda'i gilydd, yn creu swyddi ac yn cynnal swyddi yn fy etholaeth. Byddent yn cymryd yr archeb a byddent yn ei chyflenwi. Nawr, maent yn cymryd yr archeb—ni allwch anfon sypiau bach i wledydd yr Undeb Ewropeaidd mwyach, rhaid ichi lenwi lori, oherwydd rydych yn dod â milfeddyg—milfeddyg—i'ch ffatri yma ar Ynys Môn ac yn eich etholaethau chi i basio'r hufen iâ a'i gymeradwyo. Wedyn mae gennych asiant allforio; wedyn mae gennych asiant mewnforio yn y wlad rydych yn allforio iddi. Roedd yn rhaid anfon un llwyth o hufen iâ deirgwaith cyn iddo gael ei ganiatáu i mewn i'r Iseldiroedd. Ni wnaeth y gwneuthurwr geiniog ar y llwyth allforio hwnnw, a'r realiti yn awr yw na fydd y cwmni'n allforio yn y dyfodol yn ôl pob tebyg. Nawr, mae hwnnw'n ganlyniad difrifol i adael yr Undeb Ewropeaidd, pa un a wnaethoch chi bleidleisio dros hynny ai peidio.
Nawr, rwyf o ddifrif am geisio'r gorau i Gymru yn y cyd-destun newydd hwn, ond jingoistiaeth go anobeithiol yw llawer o'r hyn a glywsom heddiw ac mae Cymru a'r Senedd yn haeddu gwell na hynny.