8. Dadl Fer: Bargen deg i weithwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:52, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau a'n gweithwyr yn cyd-dynnu i helpu ei gilydd a chadw ein gilydd yn ddiogel, gweithwyr mewn cynifer o feysydd yn gwneud aberth enfawr: yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yn ein canolfannau brechu, yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol, yn cadw ein cymunedau'n lân a'n cartrefi'n ddiogel a chymaint mwy. Ddirprwy Lywydd, yn y mudiad Llafur, mae gennym air am y cyd-dynnu hwn: rydym yn ei alw'n gydsafiad.

Gwelsom hefyd enghraifft o'r her gyda pheiriannau anadlu yn Airbus a'r partneriaid lleol yn y gadwyn gyflenwi leol: gweithwyr yn rhoi eu bywydau ar stop i newid cynhyrchiant i beiriannau anadlu heb fawr o rybudd. Ni fydd y rhai nad ydynt yn beirianwyr yn deall pa mor anodd yw hynny. Roedd yr hyn a wnaeth y gweithwyr yn wyrthiol ac fe achubodd fywydau. Gwerth chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig. Ac rwy'n ailadrodd hynny: chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig.

Rhaid inni edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a chydnabod bod angen bargen decach i weithwyr yn y wlad hon ac y dylai Llywodraethau ar y naill ben a'r llall i'r M4 geisio gwobrwyo gweithwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli gyda mwy o lais a mwy o amddiffyniadau. Yn bersonol, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud i osod partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Fel cynrychiolwyr cymunedau gweithgynhyrchu balch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gwelwn enghreifftiau di-rif o'r gwaith anhygoel y mae undebau llafur—ac yn enwedig stiwardiaid llawr gwaith fel Daz Reynolds o undeb Unite—yn ei wneud dros ein cymunedau. Unwaith eto, roedd y gwaith a wnaed yn Airbus y llynedd gan Daz ac Undeb Unite Cymru ar ddiogelu swyddi yn enghraifft wych o bartneriaeth gymdeithasol ar waith. Camodd yr undebau i mewn a negodi wythnos waith fyrrach, gan achub 360 o swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda.

Gadewch i ni gyferbynnu hynny â'r hyn sy'n digwydd pan nad yw cyflogwyr yn gweithio gydag undebau ac yn ceisio tanseilio eu gweithlu: sgandal ffiaidd diswyddo ac ailgyflogi mewn ymgais i leihau telerau ac amodau gweithwyr gyda bygythiad y cânt eu diswyddo os nad ydynt yn cytuno. Nid oes lle i arferion o'r fath yng Nghymru nac yn unrhyw le arall, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru mor huawdl yr wythnos diwethaf. Ddirprwy Lywydd, mae'r arfer hwn yn wrthun, a dylem i gyd sefyll gyda'r undebau i ddweud bod yn rhaid iddo ddod i ben. Nid yw geiriau'n ddigon, a dylai Llywodraeth Geidwadol y DU roi diwedd ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar unwaith. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn codau gwirfoddol; mae angen diogelwch llawn y gyfraith ar weithwyr.

Yng Nghymru mae gennym gyfle i arwain ac adeiladu cydsafiad a thegwch i weithwyr ym mhopeth a wnawn. Mae dwy ffordd o gyflawni hyn: drwy fod Llywodraethau'n ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phobl ac undebau llafur, a thrwy i bob un ohonom ymuno â'r undeb a sefyll mewn cydsafiad â'n cydweithwyr.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae undebau wedi cyflawni cymaint ar ran gweithwyr: diogelwch yn y gweithle, absenoldeb â thâl, y penwythnos a chymaint mwy, ac mae'n hen bryd inni eu grymuso i sicrhau bargen decach i weithwyr. Diolch yn fawr.