Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 23 Mehefin 2021.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am godi'r pwnc pwysig hwn heddiw yn y Siambr. Y clafr yw un o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu ffermydd defaid yn fy etholaeth. Fel ffermwr fy hun, rwyf wedi chwistrellu ivermectin i mewn i ddefaid ac rwyf hefyd wedi dipio. Rwyf hefyd wedi cael pigiad ivermectin yn fy mys fy hun. Felly, gwn yn union beth sydd ei angen i drin y clafr yn gyflym. Oherwydd heb driniaeth briodol, gall pobl wynebu colled economaidd ddifrifol i'r busnes a phroblemau lles i'r defaid yr effeithir arnynt. Mae'r Gweinidog yn gwybod bod hwn yn bwnc y mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb ynddo, oherwydd mae hi a minnau wedi cyfarfod mewn bywyd blaenorol i drafod hyn.
Mae yna atebion i'r broblem. Yn yr Alban, mae'r clafr yn glefyd hysbysadwy. Efallai fod hyn yn rhywbeth y byddai'r Gweinidog yn ei ystyried, a gorfodaeth i glirio tir comin yn flynyddol i drin defaid ar gyfer y clafr er mwyn sicrhau, cyn iddynt ddychwelyd i'r tir comin, nad ydynt yn mynd ag unrhyw haint yn ôl gyda hwy. Rwy'n credu y byddai hefyd yn helpu pe bai Llywodraeth Cymru yn cadw mwy o wyliadwriaeth ar y clefyd, ac yn ystyried y defnydd o brofion gwaed i gadw golwg ar y diadelloedd sy'n defnyddio tir comin, oherwydd mae'n bosibl defnyddio profion gwaed i ganfod y gwrthgyrff a allai fod gan ddefaid a ddaeth i gysylltiad â'r clafr cyn iddynt ddatblygu arwyddion clinigol o'r clefyd.
Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y pwyntiau hyn. Fel y gŵyr, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda hi i fynd i'r afael â'r broblem hon, oherwydd mae'n effeithio ar ein fferm ein hunain ac mae'n hunllef o glefyd. Diolch.