9. Dadl Fer: Dileu'r clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:06, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud yr un i Samuel Kurtz, Sam Rowlands a James Evans gyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Nawr, fe ŵyr y Gweinidog, ac efallai nad yw'r Aelodau o'r Senedd hon yn ymwybodol iawn o hynny, fod y clafr yn glefyd heintus a llechwraidd iawn sy'n effeithio ar les anifeiliaid ac yn arwain at golledion economaidd. Fel y gwyddoch efallai, mae'n cael ei sbarduno gan widdon sy'n byw ar groen y ddafad, gan achosi briwiau, cosi difrifol, colli gwlân, a cholli cynhyrchiant yn y pen draw. Gall un gwiddonyn arwain yn y pen draw at haint sy'n ymledu drwy ddiadell a hefyd i ddiadelloedd cyfagos. Bydd defaid heintiedig yn dioddef o brwritis difrifol y byddant yn ceisio ei liniaru drwy grafu i'r pwynt lle byddant yn anwybyddu unrhyw weithgarwch arall tra'n achosi hunan-niwed sylweddol. Gall methu trin yr haint yn briodol achosi colledion economaidd difrifol yn sgil dirywiad cyflym yng nghyflwr y corff, pwysau geni isel, cyfradd farwolaethau uwch ymhlith ŵyn o famogiaid heintus ac israddio neu gondemnio carcasau adeg eu lladd. 

Mae difrifoldeb y sefyllfa'n glir iawn wrth ystyried bod astudiaeth yn 2010 wedi nodi bod 36 y cant o ffermydd defaid Cymru wedi cael achosion yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Cofnodwyd achosion o'r clafr ar 15.8 y cant o ffermydd Cymru yn 2015, ac amcangyfrifir y gallai cost y clefyd i'r diwydiant yng Nghymru fod yn fwy na £5 miliwn y flwyddyn. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â'r clefyd yn y wlad hon, oherwydd os na wnawn hynny, bydd goblygiadau difrifol i les a chynhyrchiant yn parhau. Nawr, mae ADAS wedi ystyried cost oedi cyn cael diagnosis a thriniaethau aflwyddiannus ac amhriodol, a'r golled gysylltiedig mewn cynhyrchiant. Canfuwyd bod colledion cynhyrchiant oddeutu £20 y famog. Ar gyfer diadell o 500, barnwyd bod costau achosion o gamddiagnosis ac achosion heb eu trin yn dda oddeutu £10,000. Mae'r ddiadell gyfartalog yng Nghymru yn 700 o ddefaid, sy'n golygu bod y golled amcangyfrifedig i gynhyrchiant oddeutu £14,000.

Dibynna'r triniaethau presennol ar gyfer plâu'r clafr naill ai ar feddyginiaethau i'w chwistrellu i ladd parasitiaid yn seiliedig ar lactonau macrogylchig—MLs—neu ddipiau organoffosffad. Nawr, bydd defnyddio'r cynhyrchion hyn i wrthsefyll haint y clafr yn arwain at gyfnodau hir ac anghyfleus o gadw cig o'r gadwyn fwyd. Felly, rhaid cael nod terfynol yma yng Nghymru i ddileu'r clafr, ac mae modd gwneud hynny. Mae Norwy, Sweden ac UDA wedi dileu'r clafr. Yn wir, roedd rhaglenni dileu blaenorol y DU yn llwyddiannus; llwyddwyd i'w ddileu yma yn 1952 a bu'r DU yn rhydd o'r clafr nes iddo gael ei ailgyflwyno o Iwerddon ym 1973. Felly, rwy'n credu, ac rwy'n eithaf hyderus, y gall Cymru, gyda'r gefnogaeth gywir gan Lywodraeth Cymru, sicrhau'r canlyniad a ddymunir unwaith eto. Yn wir, credaf fod hwn yn faes prin o bolisi amaethyddol y gallem gytuno arno mewn gwirionedd, Weinidog. Yn wir, rwy'n croesawu'r ffaith bod Cyswllt Ffermio wedi datgan y canlynol:

'Yr ateb gorau yn y tymor hir i drin y clafr yw cael gwared ar y clefyd o Gymru a gweddill Prydain. Y gobaith gorau sydd gennym o gyflawni hyn yw os bydd ffermwyr yn cydweithio i daclo’r afiechyd.'

Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r adroddiad, 'Ffermwyr yn cydweithio i drechu clafr', a'r camau y mae ffermwyr mewn rhai ardaloedd yn eu cymryd i wella lefelau bioddiogelwch ffermydd, megis cynnal ffensys a chwilio am fylchau, mannau rhwbio a rennir, ffensys dwbl lle bo'n bosibl, a chydgysylltu triniaethau gyda ffermwyr cyfagos. Fodd bynnag, mae'r prosiect hwnnw i fod i ddod i ben eleni. Yn yr un modd, daeth y mesur dros dro lle câi samplau croen o ddefaid sy'n dangos arwyddion clinigol tybiedig o'r clafr eu harchwilio'n rhad ac am ddim i ben ar 31 Mawrth 2021. Felly, mae angen gweithredu yn awr, ac mae gennych rôl allweddol i'w chwarae yn hyn, Weinidog.

Yn 2019, ym mis Ionawr, fe wnaethoch ymrwymo £5 miliwn o gyllid rhaglen datblygu gwledig Cymru ar gyfer dileu'r clafr. Felly, nid fi yw'r unig un sy'n siomedig iawn nad yw hwn wedi cyrraedd y diwydiant o hyd. Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd ar y mater yng nghynhadledd NFU Cymru ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethoch gydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi menter y diwydiant. Er ichi egluro eich bod wedi gorfod gohirio'r miliynau hyn—£5 miliwn—oherwydd COVID-19, deallaf ichi roi sicrwydd fod y cynllun ar frig eich blaenoriaethau wrth edrych ar ddyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol. Fodd bynnag, erbyn 15 Mawrth 2021—dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach—rydych wedi cyfyngu ar eich ymrwymiad, fel yr ysgrifennoch chi at Bwyllgor yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gan ddweud,

'Ein bwriad o hyd yw bwrw ymlaen â'r gofyniad wrth ystyried Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn y dyfodol, ond ni allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r posibilrwydd o gyllid newydd a phenodol ar hyn o bryd'.

Cyn hynny, roedd y prosiect a arweiniwyd gan y diwydiant i helpu i ddileu'r clefyd ar ffermydd wedi cyrraedd y cam o ddewis cais da yn mynegi diddordeb i'w ddatblygu. Fel rydych wedi dweud eich hun, Weinidog, nid yw gwneud dim yn opsiwn. Felly, mae'n hanfodol bwysig fod cyllid ar gael ac na chaiff ei ailgyfeirio y tro hwn. Yn wir, rwy'n cytuno ag NFU Cymru y gellid dyrannu'r £5 miliwn o gronfeydd na chânt eu gwario ar hyn o bryd o Gynllun Datblygu Gwledig yr UE Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio clywed ymrwymiad gennych heddiw y byddwch yn gwneud hyn. Po arafaf y gweithredwch, yr hwyaf y bydd Cymru'n wynebu'r broblem a nodwyd gan grŵp y clafr yng Nghymru yn 2018—dim dileu yn rhannol oherwydd diffyg cyllid, strategaethau niferus sy'n cystadlu, a diffyg cydgysylltiad.

Mae'n bryd ailflaenoriaethu'r ymateb i'r clafr fel y gall Cymru gyflawni'r gwaith o gyflwyno'r strategaeth a ddatblygwyd gan ffermwyr, milfeddygon ac arbenigwyr technegol, er mwyn lleihau effaith llawer o'r problemau a ganfuwyd mewn rhaglenni blaenorol a gwella lefelau uchel o les yn y diwydiant defaid yng Nghymru. Mae angen inni ddarparu manteision economaidd sylweddol i ffermydd unigol a'r diwydiant cyfan. Mae angen inni wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, lleihau nifer yr achosion o'r clefyd heb unrhyw fesurau deddfwriaethol, ac mae angen inni weld pum amcan fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn cael eu cyflawni.

Weinidog, Aelodau o'r Senedd, mae ein ffermwyr ledled Cymru yn dioddef yn fawr ar hyn o bryd. Maent yn teimlo'n siomedig iawn am y parthau perygl nitradau. [Torri ar draws.] Nid yw'n fater i chwerthin yn ei gylch. Teimlant—