Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch, Lywydd, a diolch i chithau, Weinidog, am ddod ger ein bron heddiw, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith iach gyda chi dros y cyfnod i ddod.
Weinidog, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio’r broses o lacio cyfyngiadau yn sylweddol am oddeutu pedair wythnos wedi chwalu gobeithion llawer o sectorau, yn enwedig lletygarwch, a oedd yn amlwg wedi gobeithio gallu dychwelyd i fasnachu'n gynharach ar ôl y 15 mis anodd, trychinebus rydym wedi’u cael, ac er mwyn i fusnesau oroesi drwy gydol y cyfyngiadau cyfredol, mae'n hanfodol bellach fod cymorth ychwanegol yn dod ar gael yn gyflym. Fodd bynnag, sylwais yn y gyllideb atodol, a gawsom neithiwr, mai hyd at ddiwedd y mis hwn yn unig y mae cyllid wedi'i ddyrannu i fusnesau—hyd at fis Mehefin. Felly, Weinidog, fel mater o frys, a wnewch chi ateb fy ngalwad heddiw i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fusnesau Cymru y tu hwnt i ddiwedd y mis hwn?