Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Mehefin 2021.
Roedd y gwaith y cyfeiriwch ato yn waith a wnaed gan Weinidog yr Economi yn nhymor diwethaf y Senedd i archwilio sut beth fyddai treth ffordd, ac nid yw hon yn un o'r trethi rydym yn ystyried bwrw ymlaen â hwy ar hyn o bryd yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth rydym yn awyddus i’w archwilio, er mwyn deall ei rinweddau neu ei ddiffygion. Felly yn sicr, nid yw'n gynnig gweithredol ar hyn o bryd, ond mae’n un o amrywiaeth eang o feysydd rydym yn edrych arnynt er mwyn deall beth y gallai'r cyfleoedd neu'r risgiau fod. Felly, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynigion uniongyrchol, ond yn amlwg, mae gennym ddiddordeb mewn syniadau.