Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:49, 23 Mehefin 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i achub ar y cyfle fan hyn i'ch llongyfarch chi ac i roi ar y record yn ffurfiol fy llongyfarchion i chi ar eich penodi yn Weinidog yn y Llywodraeth bresennol? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi eich gwaith chi yn ystod y Senedd yma.

Mae yna sawl haen o weinyddiaeth gyhoeddus newydd wedi cael eu creu yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, un gwendid amlwg yn fframwaith y Ddeddf, ac wrth greu'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yma, yw'r diffyg trefniadau ariannu clir a chyson ar gyfer y byrddau hyn. O ystyried pwysigrwydd y byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel prif gerbyd cyflawni'r Ddeddf llesiant ar lawr gwlad yng Nghymru, ac o gofio bod aelodaeth y byrddau yma yn debyg iawn, bron iawn yn union yr un fath, ar draws Cymru, a bod yr un cyfrifoldebau statudol ganddyn nhw, mae'r diffyg trefn gyllido gyson, genedlaethol a diffyg mynediad i gronfeydd cyfun yn rhyfeddol, efallai, a dweud y gwir. Ond mae'n rhyfeddach fyth hefyd, wrth gwrs, o ystyried bod rhai o'r endidau eraill, fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol ac, mae'n debyg, y cyd-bwyllgorau corfforedig arfaethedig, yn mynd i fod yn gweithredu ar sail wahanol. Felly, gaf i ofyn beth yw'ch bwriad chi yn gynnar yn eich tymor fel Gweinidog i fynd i'r afael â'r anghysondeb yna?