Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch, Weinidog. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i weithwyr cynghorau lleol am fynd y tu hwnt i’r galw yn ystod y pandemig. Nid yn unig fod cyllideb Rhondda Cynon Taf wedi’i tharo gan gostau COVID—mae gennym fil o £12 miliwn hefyd am waith adfer wedi’r tirlithriad yn Tylorstown, ac nad anghofier y miliynau i wella cwlfertau a systemau draenio yn dilyn y llifogydd ofnadwy.
Gweithiodd ein cyndadau yn y Rhondda eu bysedd at yr asgwrn i wneud y wlad hon yn gyfoethog, gyda llawer yn talu'r pris eithaf ei gellid ei dalu am y glo. Ni fyddai'n deg disgwyl i'n cymunedau dalu costau sicrhau bod ein tomenni glo yn ddiogel. Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn ymrwymo i Ddeddf diogelwch tomenni glo, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r gwaith hyd yn hyn. A wnaiff y Gweinidog barhau i weithio'n agos gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y cymorth ariannol mawr ei angen?