Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 23 Mehefin 2021.
Tra'n cydnabod heriau amlwg y setliadau annigonol ariannol, diffygiol, rydyn ni wedi eu cael o gyfeiriad Llundain, mae'r pwyllgor yn gosod yr her i'r Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n bosib i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r Ddeddf ac uchelgais y Ddeddf. Felly, y cwestiwn dwi eisiau ei gloi arno fe yw: a fydd y Llywodraeth yma, ac a fyddwch chi fel Gweinidog, yn gwrthod gweinyddu mwy o lymder dros y bum mlynedd nesaf ac yn defnyddio dulliau creadigol i arwain adferiad sy'n cael ei yrru gan fuddsoddiad? Hynny yw, sut fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwarchod pobl Cymru rhag mwy o doriadau trwy eich gweithredoedd ac nid dim ond trwy eich geiriau?