Datgarboneiddio Trafnidiaeth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mae mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn ganolog i waith llunio polisi'r Llywodraeth hon. Er enghraifft, eleni, rydym wedi darparu £275 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi’r gwaith parhaus o gyflawni ein rhwydweithiau metro, cynyddu buddsoddiad mewn teithio llesol i oddeutu £55 miliwn, a dyrannu £38 miliwn i gefnogi’r broses o gyflawni seilwaith gwefru ceir trydan, tacsis, cerbydau hurio preifat a bysiau dim allyriadau.