Effaith Ariannol COVID-19 ar Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:07, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Gadewch i minnau hefyd dalu teyrnged i waith caled awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn, a rhoi clod am yr holl ymdrechion a wnaed gan y rheini ar y rheng flaen, ond hefyd i'r rheini y tu ôl i'r llenni yn y gwasanaethau cymorth sydd wedi bod yn gwneud pethau fel mantoli'r cyfrifon i sicrhau bod y gwasanaethau wedi gallu parhau i gefnogi ein cymunedau.

Un mater y mae'r pandemig hwn wedi taflu goleuni arno yw parodrwydd llywodraethau ar bob lefel ar gyfer argyfyngau cenedlaethol sylweddol. Felly, yng ngoleuni hyn, pa gyllid y byddwch yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w galluogi i fod yn hollol barod ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol?