Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Mehefin 2021.
Heb os, mae COVID wedi cael effaith sylweddol ar gyllid cyhoeddus ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithriad. Mae'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus wedi dod at ei gilydd ac wedi darparu adnoddau i helpu gyda’r frwydr yn erbyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig. Rwy'n ymwybodol hefyd nad yw rhai cynghorau yng Nghymru wedi gallu gwario peth o'u cyllidebau gan fod gweithgarwch wedi'i atal neu ei gwtogi mewn rhai sectorau. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol fod gan rai cynghorau cymuned gronfeydd sylweddol wrth gefn gan nad ydynt wedi gallu gwario arian ar y pethau yr arferant wario arnynt am fod y rheini ar stop. A oes unrhyw gyngor y gall y Llywodraeth hon ei roi i gynghorau sir neu gymuned ynglŷn â defnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru effaith llai o incwm mewn meysydd eraill, a lleddfu'r baich ar y bobl sy’n talu’r dreth gyngor?