Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 23 Mehefin 2021.
Gweinidog, mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd iawn, yn Nhreganna yng Nghaerdydd, i fynd ar y beic nôl ac ymlaen i'r ysgol, oherwydd diffyg lonydd beic. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, o ran datgarboneiddio trafnidiaeth, ar gyfer cyllid i Lwybrau Diogel i'r Ysgol ar gyfer cynghorau fel cyngor Caerdydd? Diolch yn fawr.