Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 23 Mehefin 2021.
Y mis diwethaf, cyhoeddwyd y gwaith ehangu gwerth £20 miliwn yn Mona Island Dairy, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo'r sector bwyd a diod, a bydd cynhyrchwyr o Ynys Môn yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein harddangosfa ryngwladol, Blas Cymru, yn nes ymlaen eleni.