Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch. Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid y diwydiant i nodi unrhyw effeithiau posibl ar sector amaethyddol Cymru. Roedd y gwaith hwn yn sail i'n sylwadau i Lywodraeth y DU, pan ddywedasom na ddylai unrhyw gytundeb masnach roi ffermwyr Cymru dan anfantais na pheryglu ein safonau uchel.