Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Mehefin 2021.
Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd â ffrindiau pedair coes. Mae gen i Jack Russell o'r enw Poppy a chath o'r enw Binx. Ni allwn ddychmygu fy mywyd hebddynt. Nid anifeiliaid anwes yn unig ydynt, maent yn rhan o'r teulu. Nid yw hynny'n golygu eu bod bob amser yn ymddwyn yn dda, ac er mor anodd y gallant fod ar adegau, byddwn yn arswydo pe baent yn cael eu niweidio neu eu dwyn. Yn fy etholaeth yn y Rhondda, yn anffodus rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cŵn sy'n cael eu dwyn a nifer y cŵn y ceisir eu dwyn. Mae Heddlu De Cymru yn gwneud popeth yn eu gallu i adfer cŵn sydd wedi eu dwyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo'r heddlu i atal lladradau cŵn rhag digwydd yn y dyfodol?