Gwella Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:53, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 4, 5 ac 8 gael eu grwpio. Mae iechyd a lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Mae'r grŵp fframwaith, a lansiwyd yn 2014, yn nodi ein cynllun trosfwaol 10 mlynedd ar gyfer gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid.