Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Mehefin 2021.
Ni allaf roi llinell amser i chi ar gyfer hynny. Yn amlwg, mae wedi'i gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu, felly bydd yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon, ond mae'n rhywbeth rwy'n ceisio ei wneud ar y cyfle cyntaf posibl. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth rydych yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, felly roeddwn yn falch iawn ei fod wedi'i gynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym gynlluniau mewn perthynas â hyn yn y Papur Gwyn—y Papur Gwyn ar amaethyddiaeth y soniais amdano—a gyhoeddwyd gennyf yn ôl ym mis Rhagfyr. Felly, mae'n sicr yn dda iawn fod y gwaharddiad hwnnw'n cael ei gyflwyno.