Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 23 Mehefin 2021.
Diolch. Eleni, mae Côr Merched Treforys yn dathlu 80 mlynedd ers ffurfio, ac rwy’n falch iawn i fod yn llywydd i’r côr.
Dechreuwyd y côr yn 1941 gan Miss Lillian Abbot ac aelodau’r grŵp amddiffyn cymorth cyntaf lleol. Ar y pryd, roedd llawer o gorau meibion yn boblogaidd yn yr ardal, fel maen nhw’n parhau i fod, fel y côr byd-enwog Morriston Orpheus.
Mae eu cyfarwyddwr cerdd presennol, Anthony Williams, wedi bod gyda’r côr ers 1974 ac maen nhw wedi bod yn ehangu eu repertoire cerddorol yn raddol, o ganu alawon gwerin ac emynau i alawon sioe a cherddoriaeth pop.
Canolfan y côr yw Capel y Tabernacl yn Nhreforys. Maen nhw’n ymarfer yn y festri ac yn cael eu cyngherddau yn y capel. Maen nhw wedi perfformio gyda nifer o gorau, unawdwyr a bandiau milwrol. Hefyd, mae’r côr yn adnabyddus ar draws y byd, wedi canu yn adeiladau’r Senedd yn Toronto ac Ottawa yn ystod eu taith o Ganada yn 1991.
Nid Canada yw’r unig wlad maen nhw wedi gadael marc arni, ond maen nhw hefyd wedi perfformio yn yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, y Ffindir, Iwerddon, Tysgani, Gwlad Pwyl a llawer o gyngherddau yn Lloegr. Llongyfarchiadau.