Part of the debate – Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
Cynnig NDM7738 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.