Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Mehefin 2021.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol, neu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fel y'u gelwid bryd hynny, am bron i ddegawd. Gallaf bwysleisio unwaith eto fod prif swyddogion Cymru yn fodlon â hynny, maen nhw'n falch o'r cyllid ychwanegol, ac mae wedi cynyddu eu gallu a'u gwelededd, nad oes gan eu cymheiriaid yn Lloegr, ond gan fod plismona yn dal i fod yn fater a gadwyd yn ôl ac felly bod y cyllid ar sail disgresiwn, pa mor ddiogel yw'r cyllid hwn ar gyfer y dyfodol? Diolch.