Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, nododd y Gweinidog, yn dilyn ei ddatganiad ar lawr y Senedd, safbwynt Llywodraeth Cymru. Gadewch i mi fod yn glir: pan fydd y Llywodraeth hon yn taro cytundeb gyda phlaid arall, ein bwriad yw anrhydeddu'r cytundeb hwnnw. Bu gennym gytundeb gyda Phlaid Cymru mewn cylch cyllideb blaenorol. Roedd hynny'n cynnwys ffordd osgoi yn Llandeilo, a bydd yr adolygiad o ffyrdd, sy'n bolisi pwysig iawn ac a gaiff ei gynnal yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth a bennwyd gennym ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, yn anrhydeddu'r cytundeb a wnaethom.