Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:01, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl mewn ymateb i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, fe wnaethoch chi ddweud:

'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal.'

Achosodd hynny lawer iawn o ofid a loes yn y diwydiant amaethyddol. A ydych chi'n derbyn bod hwnnw'n ddatganiad camarweiniol, Prif Weinidog?