2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2021.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella cyfleusterau addysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56710
Llywydd, drwy ein rhaglen ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain, rydym wedi buddsoddi £48 miliwn mewn cyfleusterau addysgu ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Bydd hyn yn parhau, ac mae £12 miliwn arall yn cael ei gynnig mewn ail don o gyllid rhaglenni.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ymwelais i yn ddiweddar ag Ysgol wirfoddol a reolir Cosheston yn fy etholaeth i, ble y cyfarfûm â'r pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr. Mae hon yn ysgol hapus, a'r disgyblion yn awyddus i ddysgu gan athrawon brwdfrydig a galluog. Fodd bynnag, codwyd pryderon gyda mi ynghylch y diffyg lle sydd ar gael, sydd wedi gwaethygu oherwydd cyfyngiadau COVID. Mae'r staff yn treulio amser pan nad ydynt yn addysgu yn gweithio o'u ceir neu mewn coridorau, a dim ond un toiled sydd gan y disgyblion i'w rannu rhwng dosbarth o 30 mewn caban dros dro. Er bod addewidion wedi eu gwneud i ddarparu rhagor o gabanau fel ateb dros dro, mae ateb parhaol ar gael, gan fod digonedd o le ar gyfer ystafell ddosbarth wedi ei ganfod yn atig adeilad yr ysgol. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n well cael ateb parhaol, er mwyn sicrhau bod ysgol Cosheston a'i seilwaith yn gydnaws i ddarparu amgylchedd dysgu a gweithio addas a phleserus?
Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac, yn amlwg, mae'n codi materion sydd yn bwysig i rieni a myfyrwyr yn Cosheston. Y ffordd y mae'r rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn gweithio, fodd bynnag, yw mai mater i'r awdurdod lleol yw blaenoriaethu eu ceisiadau ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, sydd â'r gwaith o'u pwyso a'u mesur ledled Cymru ac yna dyrannu cyllid yn unol â hynny. Fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, Llywydd, mae sir Benfro eisoes wedi cael rhaglen fuddsoddi sylweddol yng ngham cyntaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac, ym mand B, mae £120 miliwn arall yn mynd i gael ei fuddsoddi yn ystad ysgolion a cholegau sir Benfro, ac rwy'n siŵr y bydd y llywodraethwyr a phennaeth ysgol Cosheston yn cyflwyno eu hachos, ochr yn ochr â'r Aelod, i aelodau etholedig Cyngor Sir Penfro wrth iddyn nhw fynd ati i wneud y gwaith anodd o flaenoriaethu.
Diolch. Rwyf i'n adnabod ysgol Cosheston yn dda; fe es i yno. Ond mae gen i gof hirach na'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Fel cynghorydd sir Benfro o 1995 ymlaen, gwelais effaith drawsnewidiol buddsoddiad digynsail yn ein hysgolion gan Lywodraethau Cymru olynol. A heddiw, er gwaethaf dros ddegawd o doriadau gan y Torïaid i gyllidebau Cymru, rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wych Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu 170 o ysgolion a cholegau newydd yn y cam cyntaf, a 43 o brosiectau eraill sydd ar y gweill yn yr ail gam. Felly, rwy'n cymryd yn ganiataol fod hynny i gyd yn gywir, Prif Weinidog, ac mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer y rhaglen honno wrth symud ymlaen.
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at effaith drawsnewidiol rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn sir Benfro: ysgol gynradd Eglwys yng Nghymru newydd yn Ninbych-y-pysgod, Ysgol Hafan y Môr, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ysgol uwchradd newydd, Ysgol Harri Tudur, £6 miliwn wedi ei fuddsoddi yng Ngholeg Sir Benfro ym mand A y rhaglen, a mwy i ddilyn yn awr ym mand B. Ac rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, Llywydd: nid faint yn unig yw hyn—y nifer fawr iawn hwnnw o ysgolion newydd ac adeiladau wedi'u hadnewyddu y mae'r rhaglen wedi gallu eu darparu—ond ansawdd yr amgylchedd y mae'r rhaglen yn canolbwyntio arno, y ffaith fod gan bob adeilad ei gymeriad unigryw ei hun, bod pob un ohonyn nhw'n darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, ac mae pob un ohonyn nhw yn anfon neges bwerus at fyfyrwyr sy'n mynychu ar gyfer eu haddysg am y buddsoddiad y mae'r genedl hon yn dymuno ei wneud ynddyn nhw a'u dyfodol. Dyna arwyddocâd y rhaglen, ac roedd Joyce Watson yn llygad ei lle, Llywydd, i dynnu sylw ati.