Gwasanaethau Band Eang

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:25, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mewn arolwg ddechrau'r mis hwn, roedd mwy na 50 y cant o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, yn enwedig pobl yn sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin. Dim ond 36 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig oedd â band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 67 y cant mewn ardaloedd trefol. Tybed a allai'r Prif Weinidog wneud sylw am gyflwyno band eang cyflym iawn, gan ein helpu ninnau i gyd, hefyd, i fod yn glir ynglŷn â'r cyfrifoldeb dros gyflwyno band eang cyflym iawn. Diolch yn fawr iawn.