Diogelwch ar Drenau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:35, 29 Mehefin 2021

Mae etholwyr yn Arfon yn deall pam bod caffis a llefydd bwyta yn gofalu bod eu cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol ac yn cadw at brotocolau olrhain a chysylltu. Ac mae hynny wrth gwrs yn ofynnol o dan y gyfraith, er mwyn atal lledaeniad COVID. Ond dydy fy etholwyr i ddim yn deall pam nad oes canllawiau tebyg ar drenau Trafnidiaeth Cymru, lle does yna ddim pellhau cymdeithasol ar gerbydau, a dim track and trace ar waith, ac felly mae yna berygl gwirioneddol bod y feirws yn cael ei ledaenu ar draws y wlad. Fedrwch chi gynnig esboniad am y gwahaniaeth yma, os gwelwch yn dda?