Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 29 Mehefin 2021.
O ran cyfrifoldeb, mae'n gwbl glir nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw. Yn y modd y byddech yn ei ddisgwyl, o gofio eu hoffterau ideolegol, yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ddibynnu ar y farchnad i ddarparu gwasanaeth o'r math hwn. Yn amlwg, mae'r farchnad wedi methu, a bydd y farchnad bob amser yn methu yn y lleoedd hynny y mae Jane Dodds wedi cyfeirio atyn nhw. Bydd y farchnad yn gofalu am ardaloedd poblog lle mae arian i'w wneud ac ni fydd byth yn darparu gwasanaeth yn y Gymru anghysbell a gwledig, lle bydd y gost o ddarparu band eang cyflym i eiddo penodol bob amser yn fwy na'r arian sydd i'w adennill oddi wrth y bobl sy'n byw yno. Dyna pam y camodd Llywodraeth Cymru i mewn. Dyna pam yr oeddem ni'n rhan o Cyflymu Cymru yn nhymor blaenorol y Senedd—dros £200 miliwn wedi ei fuddsoddi a band eang cyflym a dibynadwy wedi ei ddarparu i 733,000 o adeiladau.
Mae mynediad at fand eang ffeibr llawn, ar 21 y cant o safleoedd yng Nghymru, yn uwch nag yn Lloegr ac yn yr Alban. Roedd yn siomedig, rwy'n meddwl, fod cynlluniau Llywodraeth y DU, a oedd i ddarparu band eang gigabit i bob safle yn y DU erbyn 2025, wedi eu cwtogi ers hynny. Yn hytrach na'i fod yn ymrwymiad o 100 y cant, fel y cyhoeddwyd ar y cychwyn, mae bellach wedi ei ostwng i 85 y cant, a'r broblem yw, fel yr oedd Jane Dodds yn awgrymu, rwy'n credu, y bydd y 15 y cant ychwanegol hwnnw yn parhau i fod y bobl hynny yn y rhannau gwledig a mwy anghysbell hynny o Gymru lle mae'r costau dan sylw yn sylweddol iawn. Byddwn ni'n parhau, gyda'n rhaglen olynol i Cyflymu Cymru, a chyda'r rhaglenni eraill yr wyf i wedi eu hamlinellu yn fy atebion cynharach, Llywydd, i ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan wario arian Cymru lle y dylid buddsoddi arian y DU yn fwy hael, er mwyn parhau i geisio dod o hyd i ffyrdd o ddarparu'r math o gysylltiadau band eang cyflym a dibynadwy yr ydym i gyd wedi dysgu eu bod mor bwysig yn ystod y 15 mis diwethaf, ac sy'n arbennig o arwyddocaol yn y cymunedau gwledig hynny.