Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'n amlwg mai cael eich brechu yn llawn yn erbyn COVID yw amddiffyniad gorau dinasyddion rhag y feirws ofnadwy hwn a'r amrywiolion niferus ohono. A wnewch chi amlinellu sut, yn ogystal â bod ymhlith y gwledydd sy'n perfformio orau yn y byd o ran y dos cyntaf, y mae Cymru mor llwyddiannus wrth gyflymu'r broses o gyflwyno ail ddos y brechiad?