Cymorth i Fusnesau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:44, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm. Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol maen nhw'n gallu eu croesawu drwy'r drws. Mae eu gorbenion yn aros yr un fath. Cawsant fenthyciad adfer y llynedd, a chawsant gymorth gan y Llywodraeth ym mis Mawrth eleni. O ganlyniad i hyn i gyd, maen nhw ar fin cau, gyda dim ond £100 yn eu cyfrif busnes ddiwedd yr wythnos diwethaf. Mae lleoedd sy'n annog ffordd iach ac egnïol o fyw yn hanfodol ar gyfer llesiant ac iechyd corfforol a meddyliol da. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau fel y stiwdio ioga yn fy rhanbarth i, i oroesi'r heriau economaidd a ddaw yn sgil ymbellhau cymdeithasol?