Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 29 Mehefin 2021.
Nid yw haeriadau syml bod annibyniaeth yn cynnig ateb hud a lledrith i ddatrys pob problem yn ddigonol i ateb yr her honno. Ond mae'r rheini nad oes ganddynt fwy i'w gynnig na chwifio'r faner a chanu'r anthem Brydeinig yn fwy euog byth. Ni chaiff y Deyrnas Unedig ei hachub gan symbolaeth wag fel hyn. A llai byth y gellir ei diogelu gan gythruddion bwriadol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, trwy ddileu pwerau a chronfeydd, diystyru confensiwn Sewel dro ar ôl tro, na mynd trwy'r holl bethau dinistriol sy'n deillio o'r ymddygiad unochrog ymosodol sy'n aml yn nodwedd rhy amlwg o Lywodraeth bresennol y DU.
Ond, Dirprwy Lywydd, nid oes raid iddi fod fel hyn, fel y dengys 'Diwygio ein Hundeb'. Mae'r ddogfen hon yn ailedrych ar ein cynigion ni ar gyfer Teyrnas Unedig lwyddiannus a chadarn ac yn eu mynegi nhw o'r newydd. Mae'n rhoi'r dadleuon hyn yn y cyd-destun newydd a ddaeth i fodolaeth oherwydd digwyddiadau ers ei chyhoeddiad gwreiddiol ym mis Hydref 2019: ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, etholiad cyffredinol, y profiad o ddelio â phandemig byd-eang, gwaith y grŵp ffederaliaeth radical, sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i'w lywyddu gan y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, a'n hetholiad ni yng Nghymru ym mis Mai eleni. Ac er gwaethaf y llwyfan cymhleth a chystadleuol ar gyfer ei lansiad, yn ei hanfod, mae 'Diwygio ein Hundeb' yn nodi fformiwla ar gyfer undeb a all dyfu a ffynnu, nid er gwaethaf datganoli, ond oherwydd datganoli.
Mae'n cychwyn o'r cynnig radical ond syml fod sofraniaeth, bron 25 mlynedd ers dechreuad prosiect datganoli, wedi cael ei gwasgaru erbyn hyn ymysg pedair deddfwrfa etholedig y Deyrnas Unedig. A bod y Deyrnas Unedig yn gallu parhau i fodoli, nid oherwydd bod un corff sofran yn San Steffan, sy'n gallu gwrthdroi popeth y mae pobl yn y pedair gwlad yn penderfynu arno, ond oherwydd, fel mae'r grŵp diwygio cyfansoddiadol hynod nodedig hwnnw'n ei awgrymu, bod pobloedd y Deyrnas Unedig wedi dewis parhau i gronni eu sofraniaeth a diogelu'r hawliau cymdeithasol ac economaidd y mae dinasyddion ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi eu hennill—wedi brwydr galed—iddyn nhw eu hunain.
Nawr, pan gaiff y cynnig canolog hwn ei amgyffred fe fydd yna lawer yn deillio o hynny: sefydlogrwydd datganoli, ac eithrio drwy benderfyniad gan bobl Cymru yn ein hachos ni; ail-lunio'r ffin ddatganoledig, neilltuedig; codio a lleihau cwmpas confensiwn Sewell; diwygio ac ymwreiddio peirianwaith newydd gan lywodraeth i ddod â'r pedair gwlad at ei gilydd at ddibenion cyffredin; a threfniadau newydd yn lle fformiwla Barnett, yn seiliedig ar angen a dirymu gallu mympwyol y Trysorlys sy'n llesteirio'r setliad presennol o hyd.
Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddweud eto heddiw, fel y gwneuthum yn 2019, nad yw'r 20 cynnig a nodir yn ein dogfen ni'n cael eu cyflwyno ar y sail eu bod yn cynnwys yr atebion i gyd. Cyhoeddi'r ddogfen yw ein cyfraniad ni i'r ddadl, dadl na ellir ei hosgoi ac sydd ag angen dirfawr amdani. Yn hyn o beth, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyn toriad yr haf sut rydym am fynd ati i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymdeithas sifil a dinasyddion Cymru ynglŷn â'r materion hyn, ac fe fydd 'Diwygio ein Hundeb' ar gael bellach ar ei ffurf ddiweddaraf i lywio'r ddadl hon.