Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ond gadewch imi ddweud wrthych yn fy marn i ble fydd y cynllun hwn sydd gennych yn dechrau dadfeilio. I mi, ym mrawddeg gyntaf un y rhagair y mae hynny. Y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn yn y frawddeg gyntaf honno yw hwn: sut mae gwneud ein hundeb ni'n gryf ac yn gadarn? Siawns mai'r cwestiwn allweddol y dylai Prif Weinidog Cymru fod yn ei ofyn yw sut y gellir gwasanaethu buddiannau Cymru a buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau i'r dyfodol, sut y gallwn ni feithrin cenedl a all gyflawni dyheadau pobl Cymru yn y ffordd orau, a all gynllunio ar gyfer dyfodol tecach, mwy cyfiawn, mwy agored a mwy llewyrchus. Beth bynnag fo'r dadleuon a gyflwynwyd gennych chi ar yr ymylon, mae mynnu mai'r ffordd orau o wasanaethu ein dyfodol ni yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig hon, doed a ddelo—y DU hon o anghydraddoldebau sefydledig, llwgrwobrwyo COVID, elitiaeth coleg Eton—a bod yn rhaid cadw'r DU hon wrth wraidd pob ateb cyfansoddiadol, ar wahân i fethu â deall cyflwr presennol y ddadl ar ddyfodol Cymru, yn anwybyddu'r dystiolaeth eglur na fydd Llywodraethau'r DU, o ba liw bynnag, byth yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf, neu'n wir prin y byddan nhw'n eu hystyried nhw wrth wneud rhai penderfyniadau allweddol.
Rydych yn dweud eich bod yn gwrthod yr hyn yr ydych chi'n ei alw yn ymddygiad unochrog ymosodol Llywodraeth y DU. Ond er y gallai'r Llywodraeth arbennig hon yn y DU, ie, fod yn fwy amlwg ei jingoistiaeth, ac yn fwy awyddus na llawer o Lywodraethau blaenorol i ddatgan rhyw fath o enedigaeth o'r newydd i'r ymerodraeth, y gwir amdani yw, hyd yn oed wrth i ddatganoli, y broses ei hun, flodeuo, fod gan Lywodraeth y DU y pŵer terfynol hwn bob amser i ymaflyd yn yr awenau yn unochrog. Rydym ni wedi gweld bod y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan bellach yn ceisio tanseilio Senedd a Llywodraeth genedlaethol Cymru mewn dull systematig. Ac i'r Ceidwadwyr yn y fan hon, mae dweud y byddai'n well ganddyn nhw fod yn siarad am iechyd ac addysg na chanolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ar wahân i'ch atgoffa chi eich bod wedi dewis treulio awr yr wythnos diwethaf yn siarad am y refferendwm Brexit bum mlynedd yn ôl, rwy'n eich atgoffa chi mai'r rheswm am hyn yw ein bod ni'n dymuno gallu gwneud penderfyniadau gwell o ran iechyd ac addysg a swyddi y mae angen inni fod â'r seiliau gorau i adeiladu'r genedl newydd hon arnyn nhw.
Prif Weinidog, mae eich adroddiad chi'n rhoi'r cyd-destun i ni—eich egwyddorion arweiniol, fel petai. Rydych chi'n dweud eich bod wedi credu bob amser yn undod pobl gwledydd cyfansoddol y DU. Rwyf innau hefyd yn credu yng ngrym yr undod hwnnw, mewn llawer ffordd. Ond fe all yr undod hwnnw fod ar sawl ffurf. Fe allai Cymru annibynnol hefyd—ac rwy'n meiddio dweud y byddai'n dymuno, rwy'n siŵr—fod yn rhan o gymdeithas ehangach o wledydd yr ynysoedd hyn, a'r tu hwnt o ran hynny, gan ddewis cydweithredu a chefnogi ei gilydd, mewn llu o ffyrdd gwirfoddol. Mae pobl fel fi'n cael eu galw'n ymneilltuwyr yn aml, ond nid dyhead i ymneilltuo oddi wrth unrhyw beth sy'n fy sbarduno i, nid wyf i'n cael fy ngyrru gan ddyhead i dorri pethau i fyny. Rwy’n ymddiddori mewn adeiladu pethau: meithrin Cymru newydd ac, wrth wneud hynny, meithrin perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn a thu hwnt.
Mae angen inni gael dadl wirioneddol sydd heb fod yn gibddall. Mae hynny'n wir o ran dwy ochr y drafodaeth ar annibyniaeth. Ni ddylai unrhyw un dwyllo ei hun y bydd cymryd rheolaeth derfynol o'n tynged ni ein hunain yn beth hawdd iawn o'r cychwyn cyntaf. Fe geir heriau difrifol yn gysylltiedig â'r newidiadau mwyaf difrifol. Ond os ydych chi, Prif Weinidog, o ddifrif ynghylch meithrin awdurdod Cymru, mae'n rhaid ichi gofleidio pob dewis hefyd—a pheidio â bod yn gibddall—hyd yn oed os mai eich greddf chi, fel y gwyddom ni, yw ceisio cadw'r undeb.
Yr hyn sydd gennym ni yn yr adroddiad hwn yw ailysgrifennu cynigion blaenorol Llafur, ac mae gennych chi bob hawl i wneud hynny. Mae elfennau o'r hyn a gynigiwch yn gynigion yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn eu hybu ers blynyddoedd lawer fel modd i atgyfnerthu datganoli yn y byrdymor. Ond yn sicr, ar yr adeg hon yn ein taith genedlaethol, a chyda bygythiad mor wirioneddol â'r bygythiad o du Llywodraeth y DU i gywirdeb democratiaeth ein cenedl ni, ni allwn ganiatáu i hyn ddisodli'r math o ddadleuon y gwn i ein bod ni, fel cenedl, yn ddigon aeddfed i'w cynnal. Felly, gadewch inni beidio â thincera, a chan ein bod ni'n cynnig cyfrannu gyda'n gilydd at ailgynllunio'r hyn yr ydym yn ei adnabod nawr fel y DU, er ein lles ni i gyd, gadewch imi ofyn hyn i chi: beth am gael trafodaeth ar botensial Cymru annibynnol, hyblyg, deg ac uchelgeisiol yn flaenoriaeth inni, ac nid dim ond setlo i gadw'r DU doed a ddelo?