Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae gennyf i dri sylw a dau gwestiwn. Ni all undeb o bedair rhan weithio pan yw Lloegr rhwng pump a chwe gwaith yn fwy o faint na'r tair arall gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i ddatganoli fod yr un fath ar gyfer pob gwlad a rhanbarth datganoledig, fel y mae yn achos taleithiau America a Länder yr Almaen, ond mae'n rhaid i ddatganoli beidio â diweddu yng Nghaerdydd.
Yr unig bobl hyd yma sydd â pholisïau cyson yw Plaid Cymru o ran annibyniaeth ac Abolish o ran dod â'r Senedd i ben, ac mae'r ddwy blaid am i hynny fod yn unig ddewis. Rwyf i wedi bod yn cefnogi 'devo-max' ers tro byd, ac rwy'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu yn fy meddwl i, ond rwy'n siŵr bod gan eraill ddiffiniadau gwahanol o hynny, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ddechrau ei drafod.
Y ddau gwestiwn yw: yn gyntaf, pa bwerau y mae angen eu cadw ar gyfer San Steffan? Ac a ellir cynhyrchu rhestr lawn a phwynt terfyn ar gyfer datganoli er mwyn eu trafod? Fel y dangoswyd gan Ogledd Iwerddon, fe ellir datganoli gwahanol bwerau ar wahanol adegau.
Yn ail, pa drafodaeth a gawsoch chi gyda meiri rhanbarthol yn Lloegr? A ddylem ni hefyd gynnwys arweinwyr siroedd mawr Lloegr fel y gallwn gael trafodaeth gydlynol ar ddatganoli, fel nad yw datganoli'n ymwneud â dim ond Lloegr fawr iawn a thri lle bach iawn arall?