Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn gyffredinol, rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac rwy'n croesawu sylw'r Gweinidog am sicrhau na chollir cenhedlaeth yn dilyn y pandemig a chytunaf ei bod yn hanfodol bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer swyddi heddiw ac yn wir, ar gyfer y dyfodol.
Nawr, er mwyn dechrau mynd i'r afael â maint yr her hon, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparwyr sgiliau ledled Cymru, ac rwy'n falch o weld galwad i weithredu ar draws pob sector, er efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am yr alwad hon i weithredu a pha fath o ymgysylltu fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod pob sector yn cydweithio er mwyn darparu'r cynnig gorau posibl i'n pobl ifanc.
Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud yn glir bod angen diwylliant o gydweithio â darparwyr sgiliau a chyflogwyr wrth ddatblygu gwarant i bobl ifanc, a dyna pam y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i ymgynghoriad cynhwysfawr â'r rhai a allai wneud y cynllun hwn yn llwyddiant.
Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cadarnhau mai Cymru'n Gweithio fydd y porth i'r warant hon, a chroesawaf eu swyddogaeth fel sefydliad cygysylltu canolog ar gyfer y warant. Rwy'n falch o weld bod y cynllun paru swyddi arbrofol wedi cychwyn yng ngogledd Cymru a Chaerdydd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am ganlyniadau'r cynlluniau arbrofol hynny, gan ei bod yn hanfodol bod Cymru'n Gweithio yn cysylltu â busnesau i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gefnogi o ddifrif. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym ni am sut y bydd gwarant i bobl ifanc yn cael ei gwneud yn ddeniadol i fusnesau ym mhob rhan o Gymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog mwy o gyflogwyr i gymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol.
Nawr, gwyddom fod pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith economaidd anghymesur ar bobl ifanc ledled Cymru, a dangosodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pryderon difrifol am bobl ifanc o ran rhagolygon swyddi a'r posibilrwydd o orfod talu mwy o dreth yn y dyfodol i dalu am y cynlluniau cymorth ariannol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Yn wir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 11,000 o bobl ifanc 16 i 18 oed a 36,000 o bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yng Nghymru. Felly, er bod y nod o gynnig hyfforddiant neu gyflogaeth i bob person ifanc yn ganmoladwy, mewn gwirionedd gall fod yn eithaf anodd ei gyflawni, ac felly mae'n hanfodol bod gwarant i bobl ifanc yn cael ei hariannu'n ddigonol i fynd i'r afael â maint yr her.
Nid yw'r datganiad heddiw yn rhoi syniad i ni o lefel yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo i'r warant, ond mae'n hanfodol bod y wybodaeth honno ar gael fel y gallwn graffu ar y gwariant hwnnw. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym faint yn union o arian a fydd yn cael ei neilltuo i sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant.
Dirprwy Lywydd, yr hyn sy'n allweddol i sicrhau llwyddiant y cynllun yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd y warant yn rheolaidd, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymrwymo heddiw ynghylch sut y mae'n bwriadu monitro cynnydd y cynllun yn y dyfodol a pha mor rheolaidd y mae'n bwriadu cyhoeddi data a gwybodaeth am ganlyniadau a'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun ymhlith pobl ifanc a busnesau ledled Cymru. Nawr, rydym wedi gweld gwarant i bobl ifanc ar waith yn yr Alban ac mae gwaith da yr wyf yn siŵr y gellir ei ddysgu o hynny, yn enwedig o ran sut mae Llywodraeth yr Alban yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes a sut y mae'n sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed wrth ddatblygu'r warant, ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa wersi y mae wedi eu dysgu o fodel yr Alban a sut mae hynny wedi llywio datblygiad y warant i bobl ifanc yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, un gwahaniaeth rhwng model yr Alban a'r un yng Nghymru yw'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys hunangyflogaeth yn y warant i bobl ifanc. Mae data gan Dŷ'r Cwmnïau yn dangos bod dros 19,000 o gwmnïau newydd o Gymru wedi'u creu yn 2020 wrth i nifer cynyddol o unigolion benderfynu sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o hybu a chefnogi entrepreneuriaeth ledled Cymru. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn sôn am swyddogaeth Busnes Cymru a chynllun Syniadau Mawr Cymru er mwyn darparu cymorth, er y byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am ei gynlluniau i gefnogi entrepreneuriaid ifanc a chynyddu cynaliadwyedd mentrau newydd.
Mae'n bwysig bod cyrhaeddiad y warant i bobl ifanc yn cael ei deimlo ledled Cymru, a gwn o gynrychioli etholaeth sy'n aml yn teimlo ei bod wedi ei hesgeuluso gan Lywodraeth Cymru nad yw holl gynlluniau'r Llywodraeth yn cael eu datblygu ledled y wlad. Mae'r datganiad heddiw yn sôn am sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr ymgynghoriad a sut y mae'n mynd i sicrhau bod barn pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn cael ei chlywed, ac efallai y gwnaiff gadarnhau pa un a fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu ar lefel awdurdod lleol fel y gellir cymryd camau pellach wedyn, os nad yw ardaloedd yn ymgysylltu.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a dweud unwaith eto fy mod i'n gobeithio bod y warant i bobl ifanc yn llwyddiant? Rydym yn rhannu'r un uchelgais yn y fan yma, a hynny yw cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant wrth i ni symud allan o'r pandemig. Ond mae'n rhaid cael cydweithrediad cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg a sgiliau a'r gymuned fusnes i wneud y warant i bobl ifanc yn llwyddiant, ac mae'n rhaid i'r warant fod yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion pobl ifanc sy'n byw ym mhob rhan o Gymru heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.