Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, Llywydd. Adnabyddir mis Mehefin mewn lleoedd ledled y byd fel Mis Pride: cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym ni wedi dod a'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd, i ddathlu ein cymunedau LHDTC+, ac i dalu teyrnged i'r arloeswyr a ddaeth o'n blaenau—y gweithredwyr a'r cynghreiriaid sydd wedi gwneud yr hyn a ymddangosai unwaith yn amhosibl. Mae hefyd yn amser i bwyso a mesur a chynyddu ein hymdrechion i greu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi ac yn teimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain.
Y Mis Pride hwn, rwyf am achub ar y cyfle i ailddatgan ymrwymiad a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i hybu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru. Y tro diwethaf i orymdaith Pride gael ei chynnal drwy strydoedd ein prifddinas, yr oeddwn yn falch o ymuno â'n Prif Weinidog ar flaen yr orymdaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Pride yn y gorffennol, ond nawr rydym yn rhoi'r gefnogaeth hon ar sylfaen fwy cadarn, i helpu gyda chynllunio a chynaliadwyedd hirdymor—nid yn unig ar gyfer un digwyddiad, ond wrth gydnabod y rhan y mae Pride yn ei chwarae fel mudiad ar lawr gwlad. Byddwn yn sicrhau bod £25,000 o gyllid newydd ar gael i Pride Cymru eleni a byddwn yn ymgorffori'r cymorth hwn, a llawer mwy, yn y dyfodol.
Yn bwysig, ochr yn ochr â hyn, byddwn hefyd yn sefydlu cronfa Pride newydd ledled Cymru i gefnogi digwyddiadau ar lawr gwlad ledled y wlad. Byddwn yn cefnogi mudiadau llai i ffynnu ac i helpu i sicrhau y caiff pob unigolyn LHDTC+ gymryd rhan yn yr hyn sydd gan Pride i'w gynnig. Bydd rhagor o wybodaeth am y cyllid newydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl, a byddaf yn rhannu'r wybodaeth honno gydag Aelodau a sefydliadau pan fydd hi ar gael. Mae hyn yn adeiladu ar ein hanes o gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru, o fwrw ymlaen â diwygio'r cwricwlwm sy'n ymgorffori addysg LHDTC+, i sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd a dod y genedl gyntaf yn y DU i gynnig proffylacsis cyn-gysylltiad am ddim yn y GIG. Yn ystod COVID-19 sefydlwyd grant lleoliad LHDTC+ pwrpasol a, dim ond yn ystod y mis hwn, rhoddodd ein Prif Weinidog waed ochr yn ochr ag actifydd hoyw a oedd hyd at yr adeg hon wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig rydym wedi gwneud cynnydd rhyfeddol, ond mae gwaith i'w wneud o hyd a llawer o feddyliau i'w newid. Gwyddom yn iawn fod pobl LHDTC+ yn dal i wynebu heriau gwirioneddol, anfantais, anghydraddoldeb, gwahaniaethu a chasineb. Ym mis Ionawr eleni sefydlwyd panel arbenigol annibynnol i helpu i nodi a llunio'r camau nesaf ar gyfer hybu cydraddoldeb LHDTC+. Ym mis Mawrth, cyflwynodd y panel hwn ei adroddiad, a oedd yn cynnwys 61 o argymhellion o dan chwe phrif thema: hawliau dynol a chydnabyddiaeth, diogelwch, cartref a chymunedau, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, a'r gweithle. Defnyddiwyd gwaith y panel arbenigol hwn i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer hybu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, a bydd y cynllun uchelgeisiol, traws-Lywodraethol hwn yn nodi'r camau pendant y byddwn yn eu cymryd i wella bywydau pobl LHDTC+, i fynd i'r afael â gwahaniaethu, ac i wneud Cymru y wlad fwyaf ystyriol o LHDTC+ yn Ewrop yn y pen draw.
Bydd y cynllun hwn yn destun ymgynghoriad ddiwedd mis Gorffennaf, ond cyn hynny roeddwn eisiau rhannu ychydig o bwyntiau allweddol. Byddwn yn sefydlu panel arbenigol LHDTC+ yn ffurfiol i helpu i roi ein cynllun ar waith a dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran cynnydd. Fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu, rydym yn bwriadu ceisio datganoli pwerau mewn cysylltiad â chydnabod rhywedd ac archwilio'r dull gorau o weithredu i'n galluogi i wahardd therapi trosi yng Nghymru, ni waeth beth fo'r oedi gan Lywodraeth y DU. Byddwn hefyd yn penodi cydgysylltydd Pride cenedlaethol i gefnogi ein holl waith yn y maes hwn, a bydd y manylion yn cael eu cwmpasu yn ystod y misoedd nesaf. Gwyddom fod materion sy'n wynebu'r gymuned LHDTC+, fel eraill, yn aml-ddimensiwn yn aml, ac felly bydd y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio'n ddigynsail ar groestoriadedd ac yn cyd-fynd â'n gwaith i hybu hawliau dynol, gan gynnwys y cynllun cydraddoldeb strategol, y cynllun cydraddoldeb rhywiol, y fframwaith gweithredu ar gyfer anabledd ac, wrth gwrs, ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol arloesol.
Bron i 52 mlynedd yn ôl i heddiw, ar 28 Mehefin 1969, digwyddodd yr hyn a elwir bellach yn derfysgoedd Stonewall. Roedd pobl draws ar flaen y gad yn y protestiadau hyn, ac eto maen nhw heddiw yn dal i wynebu rhagfarn, casineb a gwahaniaethu sylweddol. Safodd y gymuned draws dros hawliau pawb yn ein mudiad bryd hynny, gan baratoi'r ffordd i bobl fel fi allu bod yn ni ein hunain, a heddiw rydym ni'n sefyll gyda'r gymuned draws. Nid yw ehangu hawliau un grŵp yn golygu erydu hawliau un arall. Rydym bob amser yn gryfach gyda'n gilydd. Ar ben-blwydd terfysgoedd Stonewall ym mis Mehefin 1970, digwyddodd yr orymdaith Pride gyntaf. Ganed Pride allan o brotest, ac er ei bod yn iawn i ni gydnabod a dathlu pa mor bell yr ydym wedi dod, nid yw cynnydd yn anochel, ac mae Pride yn parhau i fod mor ganolog heddiw ag yr oedd hanner canrif yn ôl. Wrth i'r Mis Pride hwn ddirwyn i ben, gadewch i ni gofio y gallwn, gyda'n gilydd, barhau i greu newid a chynnydd, gydag uchelgais gyfunol o'r newydd i wireddu Cymru fwy cyfartal. Diolch.