6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:49, 29 Mehefin 2021

Wel, mae'n bleser gwirioneddol dilyn y cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma, ac i siarad ar y cyfle cyntaf y mae'r Senedd hon wedi ei chael i drafod cydraddoldeb LHDTQ+ yng Nghymru, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad.

Fel llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, rwy'n angerddol dros sicrhau nad ydym fel cenedl byth yn rhoi'r gorau i ymdrechu i wireddu gwir gydraddoldeb LHDTQ+, a'n bod yn rhoi cynwysoldeb wrth galon ein cymdeithas. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae lleisiau LHDTQ+ yn cael eu clywed a'u cadarnhau ym maes addysg, yn y gwaith, yn ein holl gymunedau, ac rydym yn cydsefyll gyda phob unigolyn LHDTQ+ mewn undod. Fe fyddwn yn parhau i frwydro am gynnydd ac am wir gydraddoldeb i gynnal yr hawliau a enillwyd, ac i greu dyfodol gwell i bawb lle mae pawb yn rhydd i fyw fel maen nhw'n dymuno, ac rŷn ni'n croesawu'r gefnogaeth ariannol i Pride Cymru. A bydd Plaid Cymru'n parhau i bwyso i gael yr hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb wedi'u datganoli yn llawn, fel y gallwn ni sicrhau y gall y Senedd hon roi diwedd ar ragfarn a chamwahaniaethu.

Mae'n braf gweld bod cymaint o argymhellion wedi'u gosod mas ac yn mynd i fwydo mewn i'r cynllun gweithredu. Felly, hoffwn i holi ychydig o gwestiynau pellach ar hynny. Beth yw amserlen y cynllun gweithredu? A yw'r argymhellion yn mynd i fod yn rhai sy'n para dros un tymor o Lywodraeth, neu ydyn nhw'n edrych tu hwnt i hynny i'r dyfodol o ran y meini prawf a'r cerrig milltir yr oedd Altaf Hussain yn siarad amdanyn nhw? Pa mor aml bydd y Llywodraeth—a dwi'n meddwl bod hyn yn allweddol—yn adrodd ar y cynllun, yn adolygu ac yn diweddaru'r cynllun? Rŷn ni'n gwybod, fel y soniwyd am droseddau ar-lein, fod y mathau o gamwahaniaethu yn datblygu, onid ydyn nhw, ac yn newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r argymhellion wedi'u rhannu mewn i feysydd gwahanol, er enghraifft y byd gwaith, maes addysg, iechyd ac yn y blaen. Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru, mae 97 y cant o fenywod LHDTQ+ a ymatebodd i holiadur diweddar yn dweud eu bod nhw wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith. Os mai dyna yw'r sefyllfa, mae angen trawsnewidiad cyflym, onid oes, yn niwylliant ein gweithleoedd. Felly, sut ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i weithredu fel un uned drawslywodraethol er mwyn mynd i'r afael â sefyllfaoedd fel hyn? Hoffwn wybod hefyd pa adnoddau ariannol sydd yn mynd i fod ar gael ar gyfer gweithredu'r cynllun, achos mae'n rhaid, wrth seilwaith, i gynnal yr egwyddorion yma.

Rwy'n croesawu'r nod o geisio datganoli grymoedd mewn perthynas â'r Ddeddf cydnabod rhywedd—rhywbeth mae Plaid Cymru wedi pwyso'n gyson amdano fe. Ydy'r Dirprwy Weinidog, felly, yn cytuno gyda ni fod yna gymaint yn fwy y gallwn ni wneud o ran dileu anghydraddoldeb petawn ni'n datganoli mwy o rymoedd dros gyfiawnder i Gymru? 

Dylai Mis Pride Cymru, wrth gwrs, fod yn achlysur o lawenydd, o lawenydd yn unig, a gobeithio rhyw ddydd mai dyna fydd yr achos, yn darparu cyfle inni ddathlu ein hundod a'n hewyllys i sicrhau cydraddoldeb. Ond, yn anffodus, fel gwnaethoch chi sôn, rhaid wynebu'r anghyfiawnderau sy'n bodoli o hyd ar gyfer pobl LHDTQ+, wrth inni, yn eich geiriau chi, fyfyrio ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Felly, i orffen, pa gynlluniau neu waith sydd ar y gweill mewn ymateb i'r lleisiau gwrth-LHDTQ+ sydd ar gynnydd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol? Diolch.