Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 29 Mehefin 2021.
Fodd bynnag, mae'n sector cymhleth, ac rydym ni'n gwybod y bydd angen ymdrin â newid hirdymor gyda llaw gadarn, a rhaid iddo fod yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus. Bydd angen i ni fynd ati fesul cam i weithredu'r ymrwymiad hwn, sy'n golygu na fydd pob gweithiwr yn cael y cyflog byw gwirioneddol ar yr un pryd. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cydnabod y bydd angen amser ar gyflogwyr a chomisiynwyr i addasu i newidiadau. Rydym ni eisiau sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu tynnu nôl.
Mae hwn yn sector lle mae cannoedd o gyflogwyr a degau o filoedd o weithwyr. Mae'r mwyafrif llethol—tua 85 y cant o wasanaethau—yn y sector annibynnol. Dim ond un neu ddau o gartrefi neu wasanaethau bach y mae nifer fawr o ddarparwyr sector annibynnol yn eu cynnal, a nhw yw'r cyflogwr. Mae hyn yn golygu bod cyflog, telerau ac amodau yn amrywio ledled y sector. Mae cyfraddau cyflog gweithwyr gofal yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth a ledled awdurdodau lleol. Rydym ni'n deall bod nifer fach o gyflogwyr eisoes yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Fodd bynnag, nid felly y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Er ein bod ni'n buddsoddi arian cyhoeddus, mae heriau o ran gorfodi cyflogwyr i fynd ymhellach na'r isafswm statudol a gafodd ei bennu gan Lywodraeth y DU. Bydd angen i ni weithio drwy'r trefniadau comisiynu i wneud i hyn ddigwydd. Mae angen i ni fanteisio ar y trefniadau gweithio cryf sydd gennym ni rhwng darparwyr a chomisiynwyr.
Bydd yr ymrwymiad hwn yn helpu i gefnogi recriwtio, ond mae'n bwysig, wrth weithredu'r ymrwymiad, nad ydym ni'n creu heriau newydd i ddarparwyr. Dyna pam y mae ymgysylltu â phob rhan o'r sector, drwy bartneriaeth gymdeithasol, mor bwysig. Mae hyn yn dangos cymhlethdod y materion y mae angen i ni weithio drwyddyn nhw.
Byddaf i'n gofyn i fod yn bresennol yn fforwm mis Gorffennaf, pan fyddaf i'n gofyn i aelodau'r fforwm wneud argymhellion i mi ynghylch y dull gorau o sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn mwynhau cyflog tecach erbyn 2024. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm ymgysylltu â'r sector wrth iddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Rwy'n cydnabod y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael effaith ar rannau o'r sector nad ydyn nhw yn cael eu cynrychioli'n uniongyrchol yn y fforwm, ac felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ymgysylltu ar yr ymrwymiad hwn yn ehangach nag aelodaeth y fforwm. Pan fyddaf i'n cwrdd â'r fforwm ym mis Gorffennaf, byddaf i'n gofyn iddyn nhw ystyried pa ran o'r sector ddylai fod yn fan cychwyn i ni. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm adrodd yn ôl i ni, ac yn dilyn hynny byddaf i'n gwneud datganiad arall ar ein cynlluniau ar gyfer gweithredu'r ymrwymiad hwn.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hirdymor, lle mae gweithwyr o'r farn eu bod yn cael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni eisiau cryfhau'r gweithlu. Bydd cryfhau'r gweithlu yn sail i ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd yn sicrhau bod y sector yn gallu diwallu anghenion newidiol ein cymunedau. Dyma'r sylfaen ar gyfer cryfhau gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â darparu Cymru decach a chryfach.