7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 5:13, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma.

Mae'n siomedig iawn bod cyflog teg i weithwyr gofal cymdeithasol mor bell i ffwrdd. Byddwn i wedi meddwl, Dirprwy Weinidog, gyda'n plaid ni'n addo talu o leiaf £10 yr awr i staff ym maes gofal cymdeithasol, a Phlaid Cymru yn addo cynyddu'r cyflog mewn termau real, mai cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol fyddai'r isafswm lleiaf y byddech chi wedi'i wneud. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi'i fwrw o'r neilltu ac wedi gofyn i bwyllgor lunio argymhellion—er ni ddylai hynny fod yn syndod, o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi trin y gweithlu gofal cymdeithasol yn ystod y 15 mis diwethaf. Staff gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr â'r cyflogau isaf, ond roedd disgwyl iddyn nhw fynd uwchlaw a thu hwnt i’w dyletswydd yn ystod y pandemig. Rydym ni i gyd yn cofio'n iawn y £500 a gafodd ei addo i staff gofal y llynedd, a gafodd ei lesteirio gan betruso ac oedi oherwydd methodd Llywodraeth Cymru â thrafod y mater gyda'r Trysorlys cyn anfon ei datganiad i'r wasg. Dirprwy Weinidog, rydym ni'n ddiolchgar i chi gywiro hyn gyda thaliad ychwanegol, ond nawr, a wnewch chi ymddiheuro'n gyhoeddus i bawb a gollodd y taliad cychwynnol, ac a wnewch chi roi'r dasg i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych y tu hwnt i'r cyflog byw gwirioneddol? A fyddwch yn gofyn iddyn nhw edrych ar dâl salwch, a gafodd ei amlygu yn ystod y pandemig hwn?

Gwnaeth ymchwiliad gan Dŷ'r Arglwyddi ddarganfod bod cartrefi gofal a oedd yn dibynnu ar y rhai a oedd yn ariannu eu gofal eu hunain yn gallu talu staff bron ddwywaith cyflog y cartrefi hynny a oedd wedi'u hariannu gan awdurdodau lleol. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod yn rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n briodol er mwyn ariannu staff gofal cymdeithasol yn briodol? A wnewch chi sicrhau'r Siambr hon y bydd setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol yn caniatáu i'n cynghorau dalu cyflog teg i staff gofal cymdeithasol?

Wrth gwrs, nid wrth y swm yr ydym ni'n ei dalu iddyn nhw yn unig yr ydym ni'n gwerthfawrogi ein staff; mae sut yr ydym ni'n eu trin nhw a'r ffordd yr ydym ni'n eu hyfforddi nhw bron yr un mor bwysig â thalu cyflog teg. Yn anffodus, mae gan Gymru weithlu gofal cymdeithasol sydd wedi colli brwdfrydedd ac wedi digalonni ers amser maith. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld y cyfraddau trosiant staff uchaf erioed a niferoedd uchel iawn o swyddi gwag.

Dirprwy Weinidog, gosododd Llywodraeth flaenorol Cymru darged o gyflogi 20,000 yn fwy o staff gofal cymdeithasol erbyn diwedd y degawd hwn. Ai eich bwriad chi o hyd yw gwneud hynny ac, os felly, a wnewch chi amlinellu'r camau y byddwch chi'n eu cymryd i gyflawni'r targed hwn? Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, mae gennym ni 9 y cant o swyddi ym maes gofal cymdeithasol i oedolion heb eu llenwi a chyfradd trosiant staff o 13 y cant. Ym maes gofal cartref, mae'r gyfradd drosiant yn 30 y cant enfawr y flwyddyn. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno, oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â digalondid staff, bydd y mater cyflog yn eilradd? Ar wahân i fater cyflog teg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol i staff presennol a'r rhai sy'n ystyried dilyn proffesiwn gofalu?

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Dirprwy Weinidog, i wella cyflog ac amodau staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i sicrhau bod gwaith gofal yn dod yn broffesiwn mwy dymunol, ac yn adlewyrchu'n deg y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y staff anhygoel sy'n gweithio ym maes gofal. Diolch yn fawr iawn.