Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw.
Roedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y pedair lefel rhybudd a ddisgrifir yn y cynllun rheoli coronafeirws. Ers mis Chwefror, a than yn ddiweddar, roeddem ni wedi gweld y darlun yn gwella yng Nghymru. Roedd nifer yr achosion o'r coronafeirws, a nifer yr achosion o bobl a oedd yn gorfod yn mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws, wedi bod yn gostwng. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud newidiadau sylweddol i'r cyfyngiadau, gan ganiatáu i bobl fwynhau mwy a mwy o ryddid gyda phob adolygiad sydd wedi'i gynnal. Fel mae'r rheoliadau'n nodi, rhaid i'r cyfyngiadau gael eu hadolygu bob tair wythnos. Yn yr adolygiad ar 4 Mehefin, oherwydd y pryderon cychwynnol am ledaeniad yr amrywiolyn delta, penderfynwyd y byddai'r newidiadau i symud i lefel rybudd 1 yn cael eu gwneud cam wrth gam. Dywedom y byddem yn ailedrych ar y sefyllfa o fewn yr un cyfnod adolygu, a chafodd adolygiad ychwanegol ei gynnal bythefnos yn ddiweddarach.
Dwi eisiau ymddiheuro os yw'r araith yma yn swnio'n debyg iawn i'r drafodaeth y cawsom ni yr wythnos diwethaf. Yr wythnos diwethaf, mi roddais i ddiweddariad ar gyhoeddiadau'r Prif Weinidog. Ond, heddiw, mae yna gyfle inni dderbyn yn ffurfiol y newidiadau i'r rheoliadau yna mewn ffordd sy'n ffurfiol, a lle mae'r Senedd yn rhoi ei stamp swyddogol arnyn nhw. Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Mehefin, gan ailadrodd y neges yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, rŷn ni wedi cytuno i oedi unrhyw lacio mawr tan yr adolygiad ar 15 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw'r cynnydd mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, a'r ansicrwydd parhaus am yr amrywiolyn delta. Mae dulliau gweithredu tebyg wedi'u mabwysiadu ledled y Deyrnas Unedig.