Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, Gweinidog, am y rheoliadau heddiw ac am eu cyflwyno. Gallaf i ddweud yn sicr y byddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau heddiw sydd wedi'u cyflwyno'n ôl-weithredol, oherwydd mae'n amlwg eu bod yn llacio nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, briodasau ac angladdau, sydd, fel yr oeddech chi wedi'i ddweud, yn adegau bywyd pwysig i deuluoedd. Rwy'n cytuno â'ch holl deimladau ynghylch hynny. Rwy'n falch iawn o weld y rheini yn y rheoliadau presennol hyn.
Rwyf i hefyd yn falch iawn—rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad amdano o'r blaen—ynghylch canolfannau addysgol awyr agored ac aros dros nos. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Y pryder sydd gennyf i—a gobeithio y caiff hyn ei gymryd fel gwers i'w dysgu efallai—yw amser paratoi'r cyhoeddiadau hyn, oherwydd mae angen amser ar lawer o fusnesau i newid eu trefniadau, ac mae ysgolion eisoes yn gwneud trefniadau ymlaen llaw oherwydd rhesymau amlwg. Felly, os oes amser paratoi byr, yna ni fydd amser cyn diwedd y tymor ysgol er mwyn defnyddio'r rheoliad penodol hwnnw. Rwy'n pryderu y bydd rhai ysgolion, efallai o Loegr, sydd fel arfer yn dod i Gymru, yn mynd i Loegr eleni, ac yna byddan nhw'n parhau i fynd i Loegr yn hytrach na dod yn ôl i Gymru.
Rwy'n nodi'r diwygiad i reoliad 16 o'r prif reoliadau, ac rwy'n gweld bod eglurhad yno ar asesiadau risg a gaiff eu gwneud gan bobl sy'n gyfrifol am safleoedd a reoleiddir, gan gynnwys y rheol cadw pellter cymdeithasol 2m. Rwy'n croesawu'r gwelliant penodol hwnnw'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n dda ac yn gywir. Rwy'n sylwi hefyd fod yn rhaid i safleoedd, o dan y gofyniad newydd, sicrhau bod ganddyn nhw ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n dda. Byddwn i'n ddiolchgar, efallai wrth grynhoi, os oes gennych chi unrhyw fanylion eraill yn hynny o beth. Rwy'n meddwl yn benodol am fusnes lle efallai, oherwydd strwythur yr adeilad, mae'n anodd iawn gwneud newidiadau, ac a oes unrhyw gymorth busnes ar gael i helpu'r busnesau penodol hynny. Rwy'n siŵr ei fod nid yn unig yn berthnasol i fusnesau, ond i ardaloedd cyhoeddus eraill hefyd.
Byddwn i hefyd yn ddiolchgar pe byddai modd i chi egluro polisi eich Llywodraeth ar leihau lledaeniad COVID mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ddoe, gwn fod eich cyd-Weinidog y Gweinidog addysg wedi dweud mai, yn fuan, mater i safleoedd unigol fydd penderfynu ar eu rheolau diogelwch COVID eu hunain yn y dyfodol, ac ni fydd swigod dosbarth na gofyn i ysgolion nodi cysylltiadau agos eu hunain. Gwn o adroddiadau ddoe fod rhai o'r undebau wedi amlinellu y byddai'r polisi hwn yn anymarferol o'u safbwynt nhw, ac y dylai'r penderfyniadau ar ddiogelwch COVID fel y rhain gael eu penderfynu gan glinigwyr yn hytrach nag athrawon. Dyna oedd barn yr undebau ddoe. Felly, byddwn i'n croesawu eich barn a'ch syniadau ar hynny, o ran a ydych chi'n cytuno â safbwynt yr undeb ar hynny, neu a ydych chi, wrth gwrs, yn cytuno â'ch cyd-Weinidog y Gweinidog addysg.
A siarad am ddychwelyd at ryw normalrwydd eto, gallaf weld bod Llywodraeth y DU wedi ailymrwymo eto i'w dyddiad sef 19 Gorffennaf. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un peth fwy neu lai ar gyfer 19 Gorffennaf hefyd, ac mae'n sôn ynghylch mynd i lefel 0. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael trafodaethau hir ar hyn yn y Siambr hon, ynglŷn â chael dyddiad pendant fel hwnnw. Erbyn hyn, rydym ni'n gweld mwy o heintiau yng Nghymru, wrth gwrs, ond rydym ni nawr ar bwynt lle nad ydym ni wedi gweld unrhyw farwolaethau COVID yn cael eu hadrodd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am yr wythnos gyntaf ers y pandemig. Wrth gwrs mae cael yr ystadegyn hwnnw yn newyddion cadarnhaol iawn i ni. Hefyd, mae gwelyau cyffredinol ac acíwt sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID nawr ar eu lefel isaf ers dechrau'r pandemig, yr holl fisoedd hynny yn ôl. Felly, rwy'n gofyn y cwestiynau mae'n debyg yn sgil hynny.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu ffigurau ar gyfer yr amrywiolyn delta yn ddiweddar, sy'n dangos 117 o farwolaethau o 92,000 o achosion o'r amrywiolyn delta. Mae gennyf i amrywiaeth eang o ystadegau yma, na fyddaf i'n mynd drwyddyn nhw, ond, yn y bôn, mae'r ystadegau'n amlinellu os ydych chi wedi cael y ddau frechiad hynny, yna mae'n mynd i fod yn annhebygol iawn y byddwch chi'n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy'n gwybod fy mod i'n mynd i swnio'n ailadroddus yma, Gweinidog, ond, rydym ni'n dyheu yn fawr am y dyddiad hwnnw. Rydym ni'n gwybod nawr—newyddion da eto—fod 89 y cant o'r rheini dros 18 oed wedi cael eu brechiad cyntaf yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion da, cadarnhaol. Felly, yn hynny o beth, gyda'r holl wybodaeth hon yn dod at ei gilydd, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n gallu rhoi rhyw syniad i ni nawr pryd y byddwn ni'n cael y dyddiad hwnnw o ran codi'r cyfyngiadau hynny a dychwelyd i ryw radd o normalrwydd. Rwy'n gobeithio, un wythnos pan fyddaf i'n gofyn y cwestiwn hwnnw, y byddwch chi'n gallu rhoi'r dyddiad hwnnw i ni.
Gweinidog, nid normalrwydd i fusnesau yn unig, wrth gwrs, ac addysg, sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â dod â'r GIG yn ôl i'w gapasiti drwy driniaeth reolaidd a'i alluogi i ymdopi â'r ôl-groniad enfawr sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n parhau i ofyn y cwestiynau hyn drwy gydol adferiad y GIG o COVID-19. Ond rwy'n deall bod GIG Lloegr wedi bod yn cynyddu ei gapasiti'n gyson i leihau'r ôl-groniadau yno, ac y bydd yn gweithio tuag at gapasiti o 115 y cant yn y tymor canolig, i reoli eu rhestrau aros. Mae hefyd wedi gallu sefydlu safleoedd rhydd o COVID ledled byrddau iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddechrau gyda chanolfannau canser. Felly, a gaf i eich holi chi am gapasiti yma yng Nghymru? A oes unrhyw dargedau canran capasiti y byddwch chi'n gweithio tuag atyn nhw yn hynny o beth? Beth ydym ni'n debygol o'i weld yn ystod tymor y Senedd hon? Rwy'n sylwi hefyd eich bod chi wedi amlinellu, o'r blaen, eich pryderon am y 30,000 yn llai o ymholiadau canser a gafodd GIG Cymru—[Torri ar draws.]—hyd yn hyn eleni. Rwy'n cytuno, wrth gwrs—