Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 29 Mehefin 2021.
O ran y ganolfan iâ, rŷn ni wedi gofyn am gyngor penodol ar hwn ac, wrth gwrs, achos tymheredd isel yr iâ, mae'n glir bod y posibilrwydd o ledu'r feirws yn fwy, a dyna pam rŷn ni wedi cymryd yr approach rŷn ni wedi. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n edrych ar y posibilrwydd o sicrhau bod pobl sy'n gweithio yna'n broffesiynol, sglefrwyr iâ proffesiynol, yn gallu gweithio.