Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, ni fyddaf yn mynd dros yr amser, fel y gwneuthum y tro diwethaf inni gael dadl, a dyrannaf funud o fy amser i Laura Anne Jones, Peter Fox a Mabon ap Gwynfor.
Mae'r Aelodau yn y Siambr a'r rhai sy'n gwylio o bell yn anghytuno ynglŷn â llawer o bethau. Y tro hwn, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rywbeth y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch—yr angen mawr i wneud popeth posibl i gynnal a gwella ansawdd ein dŵr yn ein hafonydd yng Nghymru. Yr afonydd yng Nghymru yw'r llinynnau arian rhwng ein hucheldiroedd a'r arfordir. Maent yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Maent yn cynnig cyfle i fwynhau hamdden ac yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o dyfu ein heconomi drwy ddenu twristiaid i'n gwlad wych. Mae gennym afonydd eiconig yng Nghymru, megis y Cleddau, y Teifi a'r Tawe, ac wrth gwrs, y Wysg a'r Gwy, sy'n mynd drwy fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r rhain wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Maent yn gartref i rywogaethau gwerthfawr fel yr eog, misglen berlog yr afon a chimwch yr afon, ac maent oll angen inni eu diogelu. Mae afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn cael pob clod amgylcheddol, ond ni ddylem leihau pwysigrwydd afonydd fel Conwy, y Taf a'r Tawe. Mae'r afonydd hynny'n mynd drwy ein cymunedau mwy o faint ac mae gennym ddyletswydd o ofal i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i wella ansawdd dŵr ledled Cymru.
Y milwyr traed ym mrwydr Llywodraeth Cymru i wella afonydd yw swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, cangen o'r Llywodraeth i bob pwrpas sy'n atebol yn unig i'r Prif Weinidog a'i gyd-aelodau o'r Cabinet. Ar ddiwedd 2020, pan oedd pobl yn edrych ymlaen at wneud y gorau o Nadolig o dan gyfyngiadau COVID, cyhoeddodd CNC ganllawiau i awdurdodau cynllunio eu gweithredu ar unwaith. Mae'r canllawiau'n berthnasol i'r mwyafrif helaeth o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygu lle ceir perygl o gynyddu'r ffosffadau sy'n mynd i mewn i gyrsiau dŵr yn nalgylchoedd naw ardal cadwraeth arbennig afonol yng Nghymru. Oni all y datblygiadau hyn ddangos y gallant fod yn niwtral neu'n negyddol o ran ffosffad, nid oes gan yr awdurdodau cynllunio unrhyw opsiwn heblaw gwrthod y ceisiadau hyn. Mae'r canllawiau'n berthnasol i dai, swyddfeydd, ffatrïoedd a hyd yn oed i'r teulu sy'n dymuno adeiladu estyniad ar gyfer baban newydd-anedig neu berthynas deuluol oedrannus. Ac eto, nid ydynt yn berthnasol yn nalgylchoedd afonydd Conwy, y Taf a'r Tawe, a rhaid meddwl tybed pam. Er hynny, dywedaf eto: rydym i gyd am weld ansawdd dŵr yn gwella. Ond mae'n rhaid cwestiynu a anwybyddwyd mesurau eraill mwy effeithiol ac a yw CNC a'r rhai sydd eisiau adeiladu tai, swyddfeydd neu doiledau newydd wedi syrthio'n ysglyfaeth i gyfraith canlyniadau anfwriadol.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Dŵr Cymru i uwchraddio eu seilwaith, ond mae hon yn rhaglen hirdymor nad yw'n mynd i'r afael â'r broblem bresennol. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, dim ond dau waith trin dŵr Dŵr Cymru, yn Nhalgarth a Llandrindod, sy'n gallu tynnu'r ffosffadau i safon dderbyniol ar hyn o bryd. Mae hyn ymhell islaw'r hyn sy'n ofynnol. Yn rhy aml o lawer, clywn fod carthffos heb ei thrin a dŵr llawn ffosffad yn cael ei ollwng o waith trin dŵr i mewn i'n cyrsiau dŵr. Felly, mae hynny'n ein gadael mewn sefyllfa lle mae'r fflat mam-gu yn Llanwrtyd neu'r toiledau yn Aberhonddu sy'n defnyddio carthffosydd cyhoeddus yn cael eu gwahardd i bob pwrpas gan CNC am y byddant yn ychwanegu swm eithriadol o fach at y lefelau ffosffad cyffredinol sy'n mynd i mewn i'n hafonydd. Ac eto, gwelwn benderfyniad polisi gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heb ymgysylltiad angenrheidiol â rhanddeiliaid, heb gyllid na buddsoddiad digonol a heb roi'r atebion i allu rhoi camau unioni ar waith. Unwaith eto, mae polisi'r weinyddiaeth yn tagu datblygiad, gan roi CNC, Dŵr Cymru ac awdurdodau cynllunio mewn sefyllfa amhosibl, a gosod y bai a'r cyfrifoldeb am reoli ffosffad ar ysgwyddau'r adeiladwr a deiliaid tai cyffredin. Mae'r polisi hwn yn lladd gobeithion a dyheadau cynifer o bobl sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai ac yn tagu'r economi. Mae hefyd yn cyfyngu ar dargedau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer adeiladu tai, ac rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon o'r blaen: mae'n dangos nad yw'r llaw chwith yn siarad â'r llaw dde.
Ond gadewch i mi awgrymu ychydig o syniadau mewn ysbryd cydweithredol, gan fod problem a rennir yn broblem wedi'i haneru. Mae amaethyddiaeth yn aml yn cael ei chyhuddo o fod yn ffynhonnell bwysig o lygredd ac mae un digwyddiad llygredd amaethyddol yn un yn ormod. Ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad ac maent yn malio'n fawr am ansawdd ein hamgylchedd a'n tirweddau. Mae ffermwyr yn llawn dychymyg ac egni ac wrth inni drafod y mater hwn yma, mae llawer wrthi'n ystyried dulliau o wella'r ffordd y maent yn rheoli gwastraff ac ansawdd dŵr. Ond Weinidog, mae angen help arnynt. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â llygredd dŵr amaethyddol, megis gorchuddio storfeydd tail, ond nid yw'r cymorth ariannol yn mynd yn ddigon pell. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddatrys llygredd amaethyddol, mae angen i chi roi eich arian ar eich gair.
Nid oes gan yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru ganllawiau clir ychwaith ar sut i gymhwyso'r rheoliadau hyn, gan adael ceisiadau'n sownd yn y broses gynllunio. Felly, Weinidog, rwy'n eich annog i ymgysylltu'n ehangach â rhanddeiliaid awdurdodau cynllunio, adeiladwyr a phenseiri a'u hasiantau, fel y gallant i gyd ddeall sut i ddehongli'r canllawiau dryslyd hyn.
Er bod gan Dŵr Cymru nod hirdymor i uwchraddio'r gwaith trin dŵr gwastraff, mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn, ac mae angen rhoi pwysau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rhaid inni edrych hefyd ar fesurau dros dro. Gallem edrych ar gyfleusterau parod i drin carthion ar y safle, nodwedd a welir yn aml mewn ardaloedd gwledig fel fy un i ac eraill yn y Siambr hon. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig afonol i'r pwynt lle mae cannoedd lawer o unedau preswyl, dwsinau o gynigion masnachol a llawer o welliannau i gartrefi yn sownd yn y system gynllunio. Felly, Weinidog, efallai y gallech edrych ar hyn a helpu i ddatrys y broblem.
Nid yw hon yn broblem newydd. Yn Llychlyn a'r Almaen yn benodol, mae terfynau llym wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer, a datblygwyd atebion technegol i sicrhau bod all-lifoedd o weithfeydd trin carthion preifat yn gwella ansawdd y dŵr yn eu hafonydd mewn gwirionedd. Mae'r rhain ac atebion eraill wedi'u cynnig i awdurdodau lleol yng Nghymru gan ymgeiswyr, ond mae CNC yn eu hanwybyddu neu'n gwrthod eu hystyried na rhoi sylwadau hyd yn oed ar lwybrau arfaethedig drwy'r sefyllfa gynyddol annifyr hon.
Yn fy ardal i, mae gennym gannoedd o geisiadau ar gyfer cartrefi, gyda llawer ohonynt yn dai fforddiadwy, sydd wedi dod i stop. Teimlir rhwystredigaeth debyg yng nghyd-destun datblygiadau swyddfa, siopau a thai cyngor newydd yn y sector cyhoeddus hyd yn oed, ac nid dyma'r unig brosiectau sydd ar y gweill. O'r ysgol newydd i'r cynllun cymdeithas dai, y ffatri newydd, a hyd yn oed ymdrechion i roi cartref i berthynas oedrannus neu aelod newydd o'r teulu, mae'r rhagolygon yn llwm i lawer o ddatblygiadau ledled Cymru.
Weinidog, mae gennych bŵer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gennych fom amser amgylcheddol yn aros amdanoch yn afonydd trefi'r cymoedd mewn rhannau helaeth o ogledd a de Cymru, gan ei bod yn ymddangos eu bod wedi'u hesgeuluso gan CNC, a galwaf arnoch i ymuno â ni i chwilio am ateb uniongyrchol ac effeithiol i'r argyfwng hwn a threfnu cyfarfod rhwng CNC, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill mewn uwchgynhadledd frys i ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r broblem hon, neu fel arall bydd eich targedau adeiladu cartrefi yn cael eu methu a bydd llawer o bobl a busnesau'n dioddef y canlyniadau am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch, Lywydd.