Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn i James am yr amser i gyfrannu i'r ddadl, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Wrth gwrs, mae llygredd dŵr yn fater sydd angen mynd i'r afael ag ef, ac mae angen gwneud hynny gyda chydweithrediad y rhanddeiliaid. Yr hyn dŷn ni wedi ei weld yma, serch hynny, ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn adnabod problem ond yn methu â chydweithio gyda rhanddeiliaid i ganfod datrysiad rhesymegol. Mae yna gynlluniau, fel dŷn ni wedi clywed gan Peter Fox jest rŵan, ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn cael eu hatal ar hyn o bryd oherwydd y polisi yma. Mae gyda ni gynlluniau datblygu lleol, parthau dinesig a fframwaith datblygu cenedlaethol oll gyda pheryg o gael eu hymyrryd efo'r polisi newydd a byrbwyll yma.
Mae angen i ni edrych ar gydweithio efo'r darparwyr dŵr i weld pa fuddsoddiad sydd ei angen ar unedau trin dŵr, neu edrych i arallgyfeirio pibau i wlypdiroedd presennol neu ddatblygu gwlypdiroedd newydd. Rhaid dysgu'r gwersi, felly, a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn rhan o'r sgwrs cyn bod penderfyniadau mor bellgyrhaeddol yn cael eu gwneud yn y dyfodol. Ac, yn yr achos yma, mae angen tynnu'r rhanddeiliaid ynghyd i weld sut fedran nhw oll chwarae rhan mewn canfod datrysiad hirdymor i'r broblem. Diolch.